NDM8187 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Lwfans Cynhaliaeth Addysg

NDM8187 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Lwfans Cynhaliaeth Addysg

NDM8187 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn wahanol i Lywodraeth y DU yn Lloegr; 

b) nad yw gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru wedi newid ers 2004, ac nad yw'r trothwyon cymhwysedd wedi newid ers 2011;

c) er bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn fath pwysig o gymorth ariannol i ddysgwyr ôl-16, nid yw wedi cadw i fyny â phwysau costau byw.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried codiad sy'n gysylltiedig â chwyddiant i werth y lwfans cynhaliaeth addysg ac adolygiad o'r trothwyon.

Cyd-gyflwynwyr

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/02/2023