Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol

Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol

Inquiry5

 

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Wasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol ar 20 Gorffennaf 2023. (PDF 1.5MB)

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad. (PDF 123KB)

 

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad oedd i ystyried:

>>>> 

>>>   Cyflwr presennol y gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd a ddarperir gan awdurdodau lleol;

>>>   Yr heriau ariannol a gweithredol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth gynnal y gwasanaethau cymunedol hanfodol hyn;

>>>   Trefniadau a strategaethau ymadael awdurdodau lleol ar gyfer achosion lle nad yw’r modelau darparu amgen a ddefnyddir yn llwyddiannus;

>>>   Sut mae’r broses o ddarparu gwasanaethau eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol yn rhyngweithio â gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd;

>>>   Sut mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio modelau amgen ar gyfer darparu gwasanaethau, a’r manteision canfyddedig sy’n gysylltiedig â’r modelau hynny;

>>>   Arfer da o ran sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau lleol hamdden a llyfrgelloedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

<<< 

Math o fusnes: Arall

Statws: Cyfnod 1

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/02/2023

Ymgynghoriadau