Yr hawl i gael tai digonol

Yr hawl i gael tai digonol

Inquiry5

 

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Yr Hawl i Gael Tai Digonol ar 12 Gorffennaf 2023. (PDF 843KB)

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad. (PDF 149KB)

 

 

Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i'r hawl i gael tai digonol.

 

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad yw:

>>>> 

>>>   Edrych ar sut y byddai ymgorffori'r hawl i gael tai digonol yng nghyfraith Cymru yn gweithio'n ymarferol;

>>>   Nodi unrhyw heriau a rhwystrau i symud ymlaen â’r polisi hwn;

>>>   Ystyried yr effaith y byddai hawl i gael tai digonol yn ei chael ar draws y polisi tai yng Nghymru.

<<< 

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/02/2023

Ymgynghoriadau