P-06-1318 Eithrio ffyrdd A a B yng Nghymru o'r cyfyngiad cyflymder cyffredinol arfaethedig o 20 mya
P-06-1318 Eithrio ffyrdd A a B yng Nghymru o'r cyfyngiad cyflymder cyffredinol arfaethedig o 20 mya
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan John Martin Williams, ar ôl casglu cyfanswm o
272 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Bydd cyfyngiad cyflymder o 20 mya ar ffyrdd A a B yn dwysáu tagfeydd ac
felly’n dwysáu llygredd. Bydd angen i gerbydau ddefnyddio geriau is hefyd i
gydymffurfio â’r cyfyngiadau, gan ddwysáu tagfeydd ymhellach. Dylid eithrio
ffyrdd A a B.

Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/03/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi bod y mater wedi cael ei drafod yn helaeth yn y
Senedd, a bod mwyafrif clir o'r Aelodau wedi cymeradwyo’r penderfyniadau a
wnaed. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau na allant fynd â'r ddeiseb ymhellach
fel Pwyllgor, a chaewyd y ddeiseb gan ddiolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r
broses ddeisebau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
13/03/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Castell-nedd
- Gorllewin De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/02/2023