NDM8183 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ynni adnewyddadwy ar y môr

NDM8183 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ynni adnewyddadwy ar y môr

NDM8183 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y bydd defnyddio dyfroedd arfordirol Cymru yn helpu i gyflawni chwyldro mewn ynni gwyrdd ac adnewyddadwy.

2. Yn nodi bod modd creu tua 10,000 o swyddi gwyrdd a buddion ehangach.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru, gan sicrhau y darperir gweithlu â digon o sgiliau a chapasiti gweithgynhyrchu gwell.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/01/2023