NDM8171 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Clefyd yr afu

NDM8171 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Clefyd yr afu

NDM8171 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyhoeddi diweddar y Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau’r Afu gan Lywodraeth Cymru.

2. Yn gresynu at y ffaith, er bod modd atal 90 y cant o'r achosion o glefydau'r afu, fod marwolaethau o ganlyniad i glefydau'r afu wedi dyblu yn ystod y ddau ddegawd diwethaf a bod 9 o bob 10 claf canser yr afu yn marw o fewn 5 mlynedd o gael diagnosis.

3. Yn cydnabod mai alcohol, gordewdra a hepatitis feirol yw'r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd yr afu y rhagamcanir y bydd yn cynyddu, gyda dros 3 ym mhob 5 o bobl yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew ac un ym mhob 5 o bobl yng Nghymru yn yfed alcohol uwchben y lefelau a argymhellir.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen glir ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau a'r targedau yn y datganiad ansawdd, gan gynnwys:

a) dyblu'r gweithlu hepatoleg, gan gynnwys arbenigwyr nyrsys afu, i fynd i'r afael ag amrywiad enfawr mewn mynediad at ofal arbenigol;

b) nodi pryd fydd gan bob bwrdd iechyd dimau gofal alcohol yn eu lle saith diwrnod yr wythnos i fodloni angen lleol;

c) nodi pryd a sut y bydd llwybr prawf gwaed afu annormal Cymru gyfan yn cael ei fabwysiadu gan bob meddyg teulu i wella'r broses o ganfod clefyd yr afu yn gynnar.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, ynghyd â strwythurau rhwydwaith Gweithrediaeth y GIG sy'n cael eu datblygu, gydweithio'n agos i yrru'r gwaith o weithredu datganiad ansawdd clefyd yr afu ac i sicrhau canlyniadau gwell o ran atal, diagnosis a thriniaeth clefyd yr afu yng Nghymru.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2023