Adolygiad ar Pleidleisio drwy Ddirprwy
Cynhaliodd y Pwyllgor
Busnes adolygiad o drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy yn ystod trafodion
y Cyfarfod Llawn.
Ym mis Mawrth
2023, yn dilyn ymgynghoriad mewnol, cyhoeddodd y Pwyllgor Busnes adroddiad yn
argymell newidiadau i’r Rheolau Sefydlog a fyddai’n ceisio ehangu a gwneud y
darpariaethau’n rhai parhaol.
Cytunodd y Senedd
ar y newidiadau hynny ar 29 Mawrth 2023.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/11/2022