P-06-1312 Helpu i wella ansawdd dwr yn Afon Wysg drwy uwchraddio systemau carthffosiaeth yn nyffryn Wysg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael George Cowburn, ar ôl casglu cyfanswm
o 1,612 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Afon Wysg yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mewn Ardal Cadwraeth
Arbennig. Er hynny, gan fod ansawdd y dŵr yn Afon Wysg mor wael, mae 88 y
cant o'i chyrff dŵr yn methu â chyrraedd eu targedau. Gellid gosod
targedau i wella’r sefyllfa. (Er enghraifft: 50 y cant erbyn diwedd 2023, 25 y
cant erbyn 2024 ac ati). Mae eogiaid, brithyllod y môr a llysywod i gyd yn
dirywio’n ddifrifol. Mae tyfiant chwyn Ranunculin wedi diflannu bron yn llwyr
o’r afon. Mae pobl sy'n nofio'n wyllt yn yr afon mewn perygl o ddal heintiau.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ac eto, beth sy’n digwydd i atal y dirywiad hwn? Mae Dŵr Cymru yn
gorff dielw, a hynny ers 20 mlynedd. Gan nad oes angen talu difidendau i
randdeiliaid, gellid bod wedi buddsoddi’r arian hwn mewn cynlluniau i
uwchraddio systemau carthffosiaeth ar hyd a lled Cymru. Mae’n eironig bod dŵr
o afon Wysg yn cael ei bwmpio o Felin Prioress i Gronfa Ddŵr Llandegfedd
ar gyfer ei yfed yn ne Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru i fod i orfodi safonau
ansawdd dŵr, ond mae’n cael ei ystyried yn aneffeithiol yn gyffredinol.
Mae llygredd amaethyddol a dŵr ffo pridd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at
y broblem. Mae newid hinsawdd ynghyd â’r cynnydd o ran sychder a llifogydd
hefyd yn creu cymhlethdodau. Un o amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella’r amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r
dyfodol, ond mae’n amlwg nad yw hyn yn digwydd. Rydym yn galw ar y Senedd i
sicrhau bod Dŵr Cymru yn buddsoddi digon o arian i uwchraddio systemau
carthffosiaeth yn nyffryn Wysg i helpu’r Afon Wysg i ddychwelyd i’w hen
ogoniant.
Yn ei gyfarfod ar 13/03/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac o ystyried
y gwaith a wnaed eisoes gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar
lygredd amaethyddol yn fwy cyffredinol, a bwriad Dŵr Cymru i uwchraddio'r
systemau carthffosiaeth yn Aberhonddu, Llan-ffwyst a Brynbuga, cytunodd yr
Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 09/01/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2023