P-06-1311 Dylid cymhwyso buddiannau Cymru ac amddiffyn cyfraith ryngwladol yn erbyn marwolaeth pysgod oherwydd EDF-Hinkley yn Aber Afon Hafren

P-06-1311 Dylid cymhwyso buddiannau Cymru ac amddiffyn cyfraith ryngwladol yn erbyn marwolaeth pysgod oherwydd EDF-Hinkley yn Aber Afon Hafren

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cian Ciaran, ar ôl casglu cyfanswm o 565 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i siarad â George Eustice yn San Steffan ar frys ynglŷn â’r ffaith bod rheoleiddwyr Lloegr yn diystyru mewn modd amlwg yr ‘egwyddor dim niwed’ mewn perthynas â statws Ardal Forol Warchodedig (MPA) Aber Afon Hafren. Mae a wnelo hyn â chaniatáu dympio gwaddodion a deunyddiau solet o Hinkley i'r Hafren a pharhau â thrwydded system Hinkley ar gyfer oeri dŵr y môr sy'n peri i bysgod a physgod ifanc gael eu lladd ar raddfa enfawr, ynghyd â difrod ecolegol sylweddol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rhennir stiwardiaeth MPA Hafren rhwng awdurdodau yng Nghymru a Lloegr, felly mae angen i Lywodraeth Cymru bwyso ar reoleiddwyr Lloegr i gydymffurfio. Dynodwyd yr MPA ar y cyd yn 2018 o dan y Comisiwn OSPAR rhyngwladol. Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn atal niwed i bysgod a rhagor o ddympio ar ochr Cymru i’r Aber yn sgil carthu cyfalaf.

 

Dywedodd adroddiad Hinkley ar gyfer Prif Weinidog Cymru y dylai gorsaf bŵer Hinkley Point C ddefnyddio system oeri ar y tir.

 

● Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn y cyngor arbenigol hwn a herio George Eustice i ddweud wrth reoleiddwyr Lloegr i gynnal statws MPA Aber Afon Hafren a chadw at y polisïau y cytunwyd arnynt ar y cyd ar ddiogelu a rheoli gweithgareddau yn yr MPA.

 

● Dylai’r polisïau cyffredin hyn gynnwys a datblygu’r egwyddor ‘dim niwed’ a ddisgrifir yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Byddai hyn yn cynnwys peidio â dympio gwastraff a rhoi diwedd ar fewnlif dŵr oeri Hinkley a fydd, fe amcangyfrifir, yn lladd hanner miliwn o bysgod bob dydd o’r 60 mlynedd y bydd yn weithredol.

 

 

A wave in the ocean

Description automatically generated with low confidence

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/01/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i’w chau o ystyried bod y Gweinidog wedi rhannu canfyddiadau ei grŵp gyda’r Gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth y DU, a bod ymchwiliad cyhoeddus wedi cadarnhau bod angen cyfarpar atal pysgod acwstig.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/01/2023.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Caerdydd a Phenarth
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2023