P-06-1310 Gwarchod Mynydd Eglwysilan a Chefn Eglwysilan
P-06-1310 Gwarchod Mynydd Eglwysilan a Chefn Eglwysilan
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Kelvyn Ross Broadstock, ar ôl casglu cyfanswm
o 719 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod yn ffurfiol amgylchedd
archaeolegol, hanesyddol a chynhanesyddol Eglwysilan.
Mae cyfoeth o safleoedd pwysig yno sy'n dyddio'n ôl i'r oes efydd o leiaf,
gan gynnwys cistfeini "cynhanesyddol" a chelf creigiau hynafol.
Hefyd, mae anheddiad mawr a map Sidydd mawr wedi’i farcio â cherrig mawr.
Y pryder yw y bydd y fferm wynt arfaethedig yn creu difrod anadferadwy i’r
safleoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae’r cloddiau enwog dan fygythiad gan fod cynlluniau i geblau pŵer
a/neu ffyrdd dorri trwyddynt.
Meini hirion a meini gorweddol gyda chelf creigiau neolithig arwyddocaol a
marciau cwpanau hynafol. Mae eraill y mae angen eu cofnodi hefyd. Mae eu
lleoliadau a’u perthynas â’i gilydd yn hollbwysig ac mae’r ffyrdd a’r
platfformau y bydd angen eu hadeiladu er mwyn codi’r tyrbinau gwynt arfaethedig
yn fygythiad mawr iddynt.
Linc i ddarllen mwy am y "cae carnedd"- https://coflein.gov.uk/cy/site/94677?term=eglwysilan
Linc i ddarllen mwy am un o'r meini hirion niferus. https://coflein.gov.uk/cy/site/91889?term=eglwysilan&tud=2
Dim ond megis dechrau y mae’r gwaith ymchwil i fapio'r holl feini hirion.
Maent yn ffurfio "map seren" a fydd o bwys rhyngwladol. Byddai’n
drychineb anadferadwy symud y cerrig neu darfu arnynt.
Mae’r "cwt hir" yma https://coflein.gov.uk/cy/site/528312?term=eglwysilan&tud=2
yn un o lawer o ddarnau o dystiolaeth i awgrymu anheddiad mawr.
Mae hefyd eglwys hynafol a mynachlog.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/01/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y byddai gwaith ymgysylltu ac
ymgynghori â rhanddeiliaid yn mynd rhagddo pe bai cais yn cael, neu’n debygol o
gael, ei gyflwyno ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol. O ystyried
hyn, cytunodd yr Aelodau nad oedd fawr ddim arall y gallent ei wneud fel
Pwyllgor ac y dylid cau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/01/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2022