Canserau gynaecolegol
Canserau gynaecolegol
Inquiry5
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn edrych ar brofiadau menywod sydd â symptomau canser gynaecolegol, o ran sut
mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt ac yn eu trin, a sut
mae gwasanaethau yn grymuso menywod sydd wedi cael diagnosis o ganser
gynaecolegol ac yn gofalu amdanynt (i sicrhau y caiff eu hanghenion corfforol,
eu hanghenion seicolegol a’u hanghenion ymarferol eu diwallu).
Adroddiad yr
ymchwiliad
Ar 6 Rhagfyr
2023, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad, Heb lais: Taith
menywod drwy ganser gynaecolegol. Hefyd, cyhoeddodd y Pwyllgor grynodeb
o’r adroddiad a datganiad
i’r wasg cysylltiedig.
Ar 8 Mawrth 2024,
gosododd
Llywodraeth Cymru ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor.
Ar 15 Mai 2024,
cynhaliwyd dadl
yn y cyfarfod llawn yn Siambr y Senedd.
Gwaith dilynol
Ym mis Mehefin
2025, ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn gofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf am weithredu'r argymhellion yn Heb lais: Taith
menywod drwy ganser gynaecolegol.
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i'n llythyr ar 28 Gorffennaf 2025.
Ym mis Medi 2025,
gwnaethom hefyd wahodd rhanddeiliaid i gyflwyno eu barn ar weithrediad
argymhellion ein hadroddiad gan Lywodraeth Cymru:
>>>>
>>>FGC01
– Marie
Curie
>>>FGC02
– British
Gynaecological Cancer Society
>>>FGC03
– Tenovus
Gofal Canser ac Ymgyrch Claire
>>>FGC04
– Coleg
Brenhinol Meddygon Teulu
>>>FGC05
– Target
Ovarian Cancer
>>>FGC06
– Fair
Treatment of the Women of Wales (FTWW)
>>>FGC07
– Iechyd
Cyhoeddus Cymru
<<<
Ar 23 Ionawr
2026, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad dilynol ar
weithredu argymhellion ei adroddiad Heb lais: Taith
menywod drwy ganser gynaecolegol
Gwybodaeth am
yr ymchwiliad
Yn benodol, dyma’r
hyn a ystyriwyd gan ymchwiliad y Pwyllgor:
>>>>
>>>Y
wybodaeth sydd ar gael, a’r ymwybyddiaeth o'r ffactorau risg ar gyfer canserau
gynaecolegol ar hyd cwrs bywyd, a'r symptomau sy'n gysylltiedig â chanserau
gynaecolegol.
>>>Y
rhwystrau rhag cael diagnosis, fel symptomau'n cael eu diystyru neu eu drysu â
chyflyrau eraill.
>>>A yw
menywod yn teimlo bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt a
bod eu symptomau’n cael eu cymryd o ddifrif.
>>>Brechu
HPV a mynediad at wasanaethau sgrinio amserol, gan gynnwys ystyried yr
anghydraddoldebau a’r rhwystrau sy’n bodoli o ran nifer y gwahanol grwpiau o
fenywod a merched sy’n manteisio arnynt.
>>>Adfer
gwasanaethau diagnostig a sgrinio y GIG, yn benodol lefel y capasiti ychwanegol
a ddarperir er mwyn i wasanaethau adfer o effaith y pandemig COVID-19.
>>>Blaenoriaethu
llwybrau ar gyfer canserau gynaecolegol fel rhan o adferiad y GIG, gan gynnwys
sut mae rhestrau aros canser gynaecolegol yn cymharu â chanserau ac
arbenigeddau eraill.
>>>A oes
gwahaniaethau lleol o ran ôl-groniadau canser gynaecolegol (mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau fel nad yw mynediad at ofal a thriniaeth canser gynaecolegol
yn dibynnu ar ble mae menywod yn byw).
>>>I ba
raddau y mae data'n cael ei ddadgyfuno yn ôl math o ganser (yn hytrach na
chyfuno'r holl ganserau gynaecolegol) ac yn ôl nodweddion eraill, fel
ethnigrwydd.
>>>A
roddir blaenoriaeth ddigonol i ganserau gynaecolegol yng nghynlluniau
gweithredu sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru/GIG Cymru ar iechyd a chanser
menywod a merched, gan gynnwys manylion ynghylch pwy sy’n gyfrifol am yr
arweinyddiaeth a’r arloesedd sydd eu hangen i wella cyfraddau goroesi i fenywod
â chanser.
>>>I ba
raddau y mae prinder ymchwil i ganserau gynaecolegol, a'u hachosion a'u
triniaethau (gan gynnwys sgil-effeithiau triniaethau); a'r camau gweithredu
sydd eu hangen i gyflymu ymchwil iechyd a datblygiadau meddygol wrth wneud
diagnosis ac wrth drin canserau gynaecolegol.
>>>Y
flaenoriaeth a roddir i gynllunio ar gyfer arloesiadau newydd (o ran therapi,
cyffuriau, a phrofion) a all wella canlyniadau a chyfraddau goroesi i fenywod.
<<<
Dyma waith y
Pwyllgor ar y materion hyn:
>>>>
>>>Cyhoeddwyd
galwad am dystiolaeth rhwng 28 Hydref 2022 a 17 Mawrth 2023. Cafwyd 19
ymateb.
>>>Cynhaliwyd
sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid allweddol ar 27 Ebrill, 10 Mai,
14 Mehefin a 29 Mehefin 2023.
>>>Cynhaliwyd
sesiwn dystiolaeth lafar gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar
21 Medi 2023.
>>>Gwnaethom
weithio gyda Gofal Canser Tenovus i sicrhau bod lleisiau menywod yn ganolog i’r
ymchwiliad. Recordiodd ein Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gyfres o gyfweliadau
fideo i roi cyfle i fenywod rannu eu straeon. Gallwch ddarllen mwy am eu straeon
a gwylio’r fideos ar flog
y Senedd.
>>>
Cynhaliwyd cyfweliadau â menywod sydd â phrofiad byw o ganserau gynaecolegol.
Gallwch ddarllen am y cyfweliadau hynny yn yr adroddiad
ar ganfyddiadau’r gwaith ymgysylltu.
<<<
Cymorth a
chefnogaeth
Gofal Canser
Tenovus
Os ydych chi'n poeni
neu os oes gennych chi gwestiynau am ganser, neu os hoffech gael mynediad at ein gwasanaethau, ffoniwch
ein Llinell Gymorth am ddim ar 0808 808 1010.
Gwefan: https://www.tenovuscancercare.org.uk/get-in-touch
Ymddiriedolaeth
Canser Ceg y Groth Jo
Os oes gennych
chi gwestiwn, eisiau gwybodaeth ddibynadwy neu efallai dim ond angen sgwrs a
chlywed llais cyfeillgar, mae ein llinell gymorth am ddim ar gael i chi.
Ffoniwch ni ar 0808 802 8000.
Gwefan: https://www.jotrust.org.uk/get-support
Target Ovarian
Cancer
Pan fyddwch angen
gwybodaeth, cymorth cyfeillgar neu rywun i siarad ag ef sy’n deall sut yr ydych
chi’n teimlo – ffoniwch ein nyrsys arbenigol ar 020 7923 5475. Mae ein llinell
gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9 tan 5pm.
Gwefan: https://targetovariancancer.org.uk/support-for-you
Cymorth Canser
Macmillan
Os ydych chi neu
rywun yr ydych yn gofalu amdano wedi cael diagnosis o ganser, rydym yma i
helpu. Ffoniwch ni ar 0808 808 00 00, 8am i 8pm. Mae'n rhad ac am ddim i ffonio
o linell dir a ffonau symudol yn y DU.
Gwefan: https://www.macmillan.org.uk/cancer-information-and-support
Eve Appeal
Os ydych yn poeni
am unrhyw symptomau anarferol yr ydych wedi bod yn eu
cael, rydych
newydd gael diagnosis ac eisiau siarad â nyrs gynaecolegol arbenigol
hyfforddedig, neu'n poeni am ffrind neu berthynas sydd wedi cael diagnosis, mae
The Eve Appeal ar gael i ateb cwestiynau a phryderon. Ffoniwch 0808 802 0019.
Mae'n rhad ac am ddim i ffonio o linell dir a ffonau symudol.
Gwefan: https://eveappeal.org.uk/supporting-you/
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/11/2022
Dogfennau
- Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynglŷn â'r adroddiad; Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol. - 28 Gorffennaf 2025
PDF 203 KB - Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles ynglŷn â'r adroddiad:Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol. - 9 Mehefin 2025
PDF 91 KB - Adroddiad ar ganserau gynaecolegol - Rhagfyr 2023
PDF 801 KB - Canserau gynaecolegol: cyrnodeb
PDF 121 KB - Canserau gynaecolegol: canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu
PDF 183 KB - Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch yr uwchgynhadledd ar gyfer canserau gynaecolegol - 25 Gorffennaf 2024
PDF 150 KB - Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch yr uwchgynhadledd ar gyfer canserau gynaecolegol - 31 Mai 2024
PDF 71 KB - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd gyda chwestiynau dilynol o'r sesiwn dystiolaeth ar 21 Medi 2023 - 2 Hydref 2023
PDF 748 KB - Safbwyntiau rhanddeiliaid i ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor
- 01 - Marie Curie (Saesneg yn unig)
PDF 80 KB - 02 - Sioned Cash (Saesneg yn unig)
PDF 72 KB Gweld fel HTML (11) 25 KB - 03 - Tenovus Gofal Canser (Saesneg yn unig)
PDF 766 KB - 04 - Cymdeithas Canser Gynaecolegol Prydain (Saesneg yn unig)
PDF 781 KB - 05 - Target Ovarian Cancer (Saesneg yn unig)
PDF 49 KB Gweld fel HTML (14) 24 KB - 06 - Claire O'Shea (Saesneg yn unig)
PDF 56 KB - Barn rhanddeiliaid o ran y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r argymhellion yn ein hadroddiad:
- FGC01 - Marie Curie (Saesneg yn unig)
PDF 253 KB - FGC02 - Cymdeithas Canser Gynaecolegol Prydain (Saesneg yn unig)
PDF 58 KB - FGC03 - Tenovus Gofal Canser a Ymgyrch Claire (Saesneg yn unig)
PDF 5 MB - FGC04 - Royal College of General Practitioners (RCGP) (Saesneg yn unig)
PDF 553 KB - FGC05 - Target Ovarian Cancer (Saesneg yn unig)
PDF 100 KB - FGC06 - Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW) (Saesneg yn unig)
PDF 332 KB - FGC07 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 133 KB
Ymgynghoriadau
- Canserau gynaecolegol (Wedi ei gyflawni)