Gwasanaethau endosgopi: ymchwiliad dilynol

Gwasanaethau endosgopi: ymchwiliad dilynol

Inquiry5

 

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad byr i wasanaethau endosgopi i ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen i weithredu'r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol, i leihau amseroedd aros, ac yn y pen draw i wella canlyniadau i gleifion a chyfraddau goroesi.

 

Y cefndir

 

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd ymchwiliad i wasanaethau endosgopi ym mis Ebrill 2019. Canfu fod galw cynyddol am wasanaethau endosgopi a diffyg capasiti mewn ysbytai yn creu amseroedd aros hir am apwyntiadau endosgopi, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu cynllun endosgopi cenedlaethol yn gyflym.

 

Mae amseroedd aros ar gyfer gofal dewisol ar draws pob arbenigedd wedi cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun ar gyfer adfer gwasanaethau dewisol. Cefnogir y cynllun gan gyllid ychwanegol o dros £170 miliwn dros dair blynedd, ac mae’n cynnwys rhoi’r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol ar waith.

 

Darparodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad ar argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd ym mis Medi 2022.

 

Yn dilyn galwad am dystiolaeth ysgrifenedig yn hydref 2022 a sesiynau tystiolaeth lafar ar 2 Chwefror a 15 Chwefror 2023, gwnaethom ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 10 Mawrth 2023. Ymatebodd y Gweinidog ar 25 Ebrill 2023.

 

Cylch gorchwyl

 

Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor:

>>>> 

>>>Yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar ddarparu gwasanaethau endosgopi a rhoi’r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol ar waith, a goblygiadau hwn i ganlyniadau cleifion a chyfraddau goroesi.

>>>Y flaenoriaeth a roddir i wasanaethau endosgopi yn y rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys pwy sy’n gyfrifol am gyflawni gwelliannau drwy ad-drefnu gwasanaethau a modelau gofal newydd (gan gynnwys theatrau endosgopi ychwanegol, canolfannau diagnostig ac unedau rhanbarthol), a sut y bydd gwasanaethau endosgopi yn rhan o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser newydd (y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn hydref 2022).

>>>Materion yn ymwneud ag adfer a gwella perfformiad o ran amseroedd aros, gan gynnwys: lleihau amseroedd aros am brofion a delweddu diagnostig i wyth wythnos erbyn gwanwyn 2024, a chymorth i bobl sy'n aros am brofion ac apwyntiadau dilynol; maint y rhestr aros weithredol ar gyfer yr holl gleifion mewnol ac achosion dydd presennol sy'n aros am driniaethau endosgopig (yn ôl modd); i ba raddau y mae gweithgarwch brys yn effeithio ar gapasiti gofal a gynlluniwyd, ac a oes digon o ddata i ddeall effaith achosion brys; a yw cleifion risg uchel sydd angen gweithdrefnau endosgopig gwyliadwriaeth barhaus yn cael eu cynnwys yn y modelau cynllunio galw a chapasiti presennol; y posibiliadau ar gyfer cynyddu'r gwersi a ddysgwyd o fentrau rhestrau aros blaenorol, fel gosod gwaith ar gontractau mewnol, gosod gwaith ar gontractau allanol, neu unedau symudol; a'r hyn y mae'r modelu galw a chapasiti presennol yn ei ddweud wrthym ynghylch pryd y gellir cyflawni sefyllfa gynaliadwy yn realistig.

>>>Pa rwystrau sydd i gyflawni achrediad gan y Grŵp Cynghori ar y Cyd ar Endosgopi Gastroberfeddol, gan gynnwys a yw byrddau iechyd yn buddsoddi digon o adnoddau i ddatblygur cyfleusterau ar seilwaith ar gyfer gwasanaethau endosgopi, gwasanaethau dadheintio, a’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran ehangu’r gweithlu endosgopi.

>>>Y sefyllfa bresennol o ran gwneud yn fawr o’r rhaglen sgrinio canser y coluddyn (h.y. cynyddu sensitifrwydd a phrofion o ran oedran) a sut mae hyn yn cymharu â rhannau eraill o'r DU.

>>>Profiadau pobl iau a rhai sydd yn y perygl mwyaf o ddatblygu canser y coluddyn (h.y. y rhai sydd â syndrom Lynch), ac ymdrechion i roi diagnosis i ragor o gleifion yn gynnar.

>>>Mynediad gofal cychwynnol at Brofion Imiwnogemegol Ysgarthol (FIT) ar draws gwahanol fyrddau iechyd ar gyfer cleifion nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer atgyfeiriad llwybr amheuaeth o ganser, a sut y cânt eu defnyddio i helpu gwasanaethau i flaenoriaethu cleifion ac i haenu atgyfeiriadau yn ôl risg (trawsnewid cleifion allanol).

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/10/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau