P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru
Geiriad y ddeiseb:
Llofnodwch i gefnogi
cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid. Dyma gronfa ddata canolog i Gymru a fydd yn
cynnwys enw, cyfeiriad a chollfarnau pobl sydd wedi’u cael yn euog o unrhyw fath
o gam-drin neu greulondeb yn erbyn anifeiliaid yng Nghymru. Bydd yn ofynnol i fridwyr neu werthwyr
anifeiliaid wirio’r gronfa ddata canolog hwn cyn caniatáu i anifail y maent yn
berchen arno neu wedi’i fridio fynd i ddarpar berchennog neu gartref newydd; os
canfyddir bod anifail gan rywun sydd wedi’i gael yn euog o gam-drin neu
greulondeb yn erbyn anifeiliaid, bydd y cyflenwr neu’r bridiwr yn atebol a
chaiff ei erlyn. Ar hyn o bryd, nid oes
cyfraith i atal rhywun sydd wedi’i gael yn euog o greulondeb i anifeiliaid rhag
symud ychydig filltiroedd i fyny’r ffordd a chael anifail arall a’i gam-drin
ymhellach. Rhaid gweithredu cyfreithiau
llymach er mwyn helpu i ddiogelu anifeiliaid.
Mae angen dirwyon trymach a dedfrydau hwy o garchar yn ogystal â chofrestr
ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid.
Mae Efrog Newydd
a nifer o daleithiau yn yr Unol Daleithiau eisoes wedi cyflwyno’r gyfraith hon;
beth sy’n rhwystro Cymru rhag arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig? Rydych wedi clywed am Gyfraith Sarah, a luniwyd
i gadw troseddwyr rhyw rhag aildroseddu.
Nawr rydym yn gobeithio cael cyfraith a grëwyd yn y gobaith o atal pobl
sy’n cam-drin anifeiliaid rhag achosi rhagor o greulondeb, neu rhag symud
ymlaen at gam-drin pobl. Mae ymchwil
wedi dangos bod cydberthynas gref iawn rhwng cam-drin anifeiliaid a cham-drin
domestig. Mae nifer o lofruddion yn
dechrau drwy arteithio anifeiliaid, felly gallem hefyd ddiogelu bywydau pobl.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Mari Roberts & Sara Roberts
Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf: 19 Mehefin 2012
Nifer y llofnodion: 69
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Dogfennau
- Llythyr Ymgynghori - Rhagfyr 2012
PDF 116 KB
- Ymatebion i’r Ymgynghoriad
- Ymateb i'r Ymgynghoriad – PET(4)CAR 01 – Animal Aid (Saesneg yn unig)
PDF 84 KB Gweld fel HTML (3) 126 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad – PET(4)CAR 02 – British Veterinary Association (Saesneg yn unig)
PDF 614 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad – PET(4)CAR 03 – Blue Cross (Saesneg yn unig)
PDF 120 KB Gweld fel HTML (5) 53 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad – PET(4)CAR 04 – Undeb Amaethwyr Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 162 KB Gweld fel HTML (6) 96 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad – PET(4)CAR 05 – Dominika Flindt (Saesneg yn unig)
PDF 117 KB Gweld fel HTML (7) 32 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad – PET(4)CAR 06 – RSPCA Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 573 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad – PET(4)CAR 07 – The British Horse Society (Saesneg yn unig)
PDF 65 KB Gweld fel HTML (9) 16 KB