P-06-1303 Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy'n gweithio
P-06-1303 Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy'n gweithio
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gill Byrne, ar ôl
casglu 96 lofnodion ar-lein ac 164 o lofnodion ar babur, sef cyfanswm o 260
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae gormod o rieni â theuluoedd ifanc yn cael eu
hatal rhag manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant yn sgil
diffyg darpariaeth gofal plant lleol fforddiadwy. Mae’r sefyllfa hon yn cadw
plant a theuluoedd mewn tlodi, yn lleihau dewis i gyflogwyr, ac yn cael effaith
negyddol ar les teuluoedd ac economi Cymru. Mae angen ymyrraeth ar lefel
wleidyddol i sicrhau bod y sefyllfa hon yn cael sylw.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Fel cyn swyddog datblygu ym maes gofal plant,
gallaf gadarnhau bod y sefyllfa’n waeth nawr nag yr oedd 10-15 mlynedd yn ôl,
gyda gostyngiad enfawr mewn lleoedd gofal plant i fabanod a phlant hŷn.
Fel rhan o’i hymrwymiad i blant a theuluoedd yng Nghymru, mae angen i
Lywodraeth Cymru ystyried ar fyrder opsiynau ar gyfer sicrhau bod gofal plant
fforddiadwy yn hawl i bob teulu, yn yr un modd ag y mae addysg. Dylai’r
Llywodraeth hyd yn oed ystyried lleoli meithrinfeydd a lleoliadau gofal plant
ar dir ysgolion, yn enwedig mewn adeiladau newydd neu safleoedd ysgol presennol
lle mae digon o le i wneud hynny. Ni all y rhieni yr wyf yn eu hadnabod
fanteisio ar gyfleoedd a fyddai o fudd i'w teuluoedd. Naill ai mae’r gofal
plant yn anfforddiadwy, neu'n amlach na pheidio, nid oes gofal plant ar gael
iddynt. Mae angen buddsoddiadau parhaus ar lefel Llywodraeth Cymru o ran
darparu lleoedd gofal plant a darparu cymorthdaliadau ar eu cyfer. Gadewch i ni
arwain y ffordd i weddill y DU!
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 18/11/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 7/11/2022.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/09/2022