P-06-1301 Ailystyried eithrio staff cartrefi gofal rhag cael y taliad ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol
P-06-1301 Ailystyried eithrio staff cartrefi gofal rhag cael y taliad ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anita Braine, ar ôl casglu cyfanswm o 540
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Llywodraeth Cymru yn cael ceisiadau am daliadau gofal cymdeithasol
ychwanegol wedi’i alinio â’r Cyflog Byw Gwirioneddol (taliad trethadwy o
£1,498). Mae’n dweud bod y taliad ‘yn dangos ein hymrwymiad i wella statws,
telerau ac amodau a llwybrau gyrfa ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.'
Wrth eithrio pob rôl hanfodol arall mewn cartref gofal, teimlwn fod y
Llywodraeth wedi dibrisio ein cyfraniad, a’i bod yn disytyru’r darparwyr gofal
hanfodol hyn y mae rheolwyr gofal yn cytuno eu bod yn gwbl angenrheidiol!
Dim ond ‘gweithwyr gofal, uwch staff gofal, rheolwyr gofal a nyrsys' cymwys
fydd yn cael y taliad hwn ac mae cydweithwyr yn yr un cartref sydd mewn swyddi
arlwyo, glanhau a chynnal a chadw, swyddogion cyllid, therapyddion, staff
cymorth busnes, hyfforddwyr, staff derbynfa a chydlynwyr gweithgareddau yn cael
eu heithrio’n benodol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Fel y dywedodd rheolwr fy nghartref gofal i: “Os nad oes gen i bobl yn
coginio bwyd yn y gegin sut y byddaf yn bwydo'r preswylwyr?”
Mae pawb yn gwybod bod gwaith gofal yn talu’n wael, felly mae'r rhan fwyaf
sy'n gwneud y gwaith yn gwneud hynny oherwydd eu cariad a’u tosturi tuag at y
rhai y maent yn gofalu amdanynt. Er ei bod yn hen bryd cydnabod y swyddi gwych
hyn, mae'n hynod annheg gwahaniaethu rhwng swyddi mewn lleoliad cartref gofal.
Helpwch i gefnogi staff ein cartrefi gofal!
Yn ei gyfarfod ar 07/11/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y
Dirprwy Weinidog wedi bod yn glir ynghylch y rhesymu dros dalu Cyflog Byw
Gwirioneddol i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny sydd angen cofrestru gyda Gofal
Cymdeithasol Cymru. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau ei bod yn anodd gweld beth
arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd a chafodd y ddeisesb ei chau a
diolchwyd i'r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 07/11/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb
mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn
gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2022