P-06-1300 Dylid adolygu'r penderfyniad yn caniatáu i awdurdodau lleol gynyddu premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi i 300 y cant
P-06-1300 Dylid adolygu'r penderfyniad yn caniatáu i awdurdodau lleol gynyddu premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi i 300 y cant

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David Smith, ar ôl casglu 669 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rwy’n pryderu nad yw’r cyfraniad sylweddol y mae perchnogion ail gartrefi
yn ei wneud i’r economi leol wedi cael ei ystyried a’i archwilio’n llawn mewn
perthynas â’r polisi hwn. Er fy mod yn sylweddoli bod her o ran sicrhau bod tai
fforddiadwy ar gael i bobl leol, nid gosod baich ariannol o'r math hwn ar
berchnogion ail gartrefi yw'r ateb.
Fel perchnogion ail gartref sy’n treulio pob penwythnos yn ein hail
gartref, rydym yn teimlo’n rhan o’r gymuned ac wedi cael croeso cynnes.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Rydym yn gwario ein harian yn lleol pan fyddwn yn ymweld â’r gymuned, gan
gynnwys cyflogi pobl leol i adeiladu ein cartref. Ni ellir tanamcangyfrif y
cyfraniad y mae perchnogion ail gartrefi yn ei wneud.
Nid oedd llawer o berchnogion ail gartrefi yn ymwybodol o’r ymgynghoriad a
gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, sef yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis
Tachwedd 2021. Felly, rydym yn teimlo nad yw ein lleisiau a’n pryderon wedi
cael eu clywed.

Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/10/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bu cryn
dipyn o waith craffu mewn pwyllgorau ac yn y Cyfarfod Llawn ar y mater. Nawr
bod y rheoliadau wedi’u cytuno, mater i awdurdodau lleol bellach yw penderfynu
sut i’w defnyddio. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, i ddiolch i’r
deisebydd, ac i’w annog ef a’r rhai sydd wedi llofnodi’r ddeiseb hon i estyn
allan at eu cynrychiolwyr yn eu hawdurdodau lleol.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf
gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/10/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ynys Môn
- Gogledd Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn
gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/10/2022