NDM8082 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canser gynaecolegol
NDM8082 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canser gynaecolegol
NDM8082 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod mis
Medi yn fis ymwybyddiaeth canser gynaecolegol.
2. Yn mynegi ei
phryder mai'r perfformiad llwybr canser unigol isaf yn ôl safle tiwmor yw'r un
gynaecolegol, gyda llai na thraean o gleifion yn cael eu gweld o fewn 62
diwrnod.
3. Yn gresynu at y
ffaith bod cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer canser y groth
wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf.
4. Yn nodi ymhellach
ymchwil a wnaed gan Jo's Cervical Cancer Trust sy'n amlygu na all 80 y cant o
fenywod sy'n gweithio'n llawn amser gael apwyntiad sgrinio serfigol cyfleus.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) gynnal adolygiad
brys i amseroedd aros canser gynaecolegol;
b) sicrhau bod
cynlluniau'r gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser yn canolbwyntio ar iechyd
gynaecolegol; ac
c)
cyflwyno ei chynllun gweithredu canser ar unwaith.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/09/2022