NDM8070 Dadl Plaid Cymru - Costau byw

NDM8070 Dadl Plaid Cymru - Costau byw

NDM8073 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod y cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau argyfwng costau byw ehangach ar unwaith, fel:

a. haneru prisiau trenau a gosod cap ar brisiau bws;

b. gweithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi cronni yn ystod cyfnod y pandemig; 

c. rhewi rhent; 

d. ailgyflwyno mesurau i wahardd troi allan yn y gaeaf; 

e. ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd;

f. cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysgol i £45.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ardoll ar elw ynni.

Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau byw, gan gynnwys:

a) gwarant pris ynni, sy’n rhoi cap ar gostau ynni;

b) taliadau costau byw i bobl ar fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth gwerth £650;

c) taliad costau byw anabledd gwerth £150;

d) gostyngiadau misol mewn biliau tanwydd o fis Hydref ymlaen gwerth £400;

e) cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol i £9.50 yr awr;

f) gostyngiad yn y gyfradd tapro credyd cynhwysol;

g) rhewi’r dreth tanwydd;

h) rhewi ffi'r drwydded teledu am ddwy flynedd;

i) taliadau tanwydd gaeaf ychwanegol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl, busnesau a'r trydydd sector i wynebu'r heriau sydd i ddod.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi’r canlynol yn ei le:

Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew.

Yn croesawu’r £1.6bn a fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys:

a) ehangu Taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;

b) dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;

c) buddsoddi £51.6m yn y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;

d) £4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/09/2022