Cyfres arholiadau'r Haf 2022
Cyfres arholiadau'r Haf 2022
Trwy gydol haf
2022 bu'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn monitro'r gyfres o arholiadau.
Ym mis Gorffennaf
2022 gwnaethom ysgrifennu at Gymwysterau
Cymru (PDF 145KB) a CBAC
(PDF 143KB) i holi am bryderon a leisiwyd i ni gan aelod o'r cyhoedd, a
materion eraill sy'n cael eu hadrodd yn y cyfryngau (megis rhannau ar goll mewn
arholiadau neu gwestiynau
afresymol o anodd).
Ar 14
Gorffennaf 2022 aeth y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg gerbron y Pwyllgor,
bu'r Aelodau'n gofyn cwestiynau am gyfres arholiadau'r haf. Mae trawsgrifiad o'r
cyfarfod ar gael.
Ymddangosodd
Cymwysterau Cymru a CBAC gerbron y Pwyllgor ar 21
Medi 2022 i roi tystiolaeth am arholiadau'r haf. Yn dilyn y sesiwn, ysgrifennodd
(PDF 338KB) y Pwyllgor at Cymwysterau Cymru a chafwyd ymateb
(PDF 237KB).
Mae trawsgrifiad o'r
cyfarfod ar gael.
Bydd y Pwyllgor
yn parhau i gadw llygad ar arholiadau ac asesiadau wrth i ni bontio at ffyrdd o
asesu dysgwyr yn yr un modd â chyn y pandemig.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/08/2022
Dogfennau
- Ymateb gan Cymwysterau Cymru - 04 Hydref 2022 PDF 100 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru - 28 Medi 2022 PDF 338 KB
- Cwestiwn a gyflwynwyd ar gyfer sesiwn dystiolaeth - 20 Medi 2022 (Saesneg yn unig) PDF 97 KB
- Ymateb gan CBAC - 07 Medi 2022 (Saesneg yn unig) PDF 179 KB
- Ymateb gan Cymwysterau Cymru - 07 Medi 2022 PDF 107 KB
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Brif Weithredwr Cymwysterau Cymru - 1 Awst 2022 PDF 78 KB