Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol

Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol

Inquiry5

 

Menywod sy’n cyfrif am tua 5 y cant o boblogaeth y carchardai, ond mae ffigurau gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn awgrymu bod menywod yn fwy tebygol na dynion o adrodd am broblemau iechyd meddwl, adrodd am ddioddef cam-drin emosiynol, corfforol neu rywiol fel plentyn, bod yn y carchar am eu trosedd cyntaf, a bod â phroblem cyffuriau neu alcohol wrth ddod i mewn.

Fel rhan o gyfres o ymchwiliadau byr i edrych ar brofiadau yn y system cyfiawnder troseddol, Gwnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gael golwg strategol ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol, gyda’r bwriad o nodi materion y gallai fod angen bwrw golwg manylach arnynt.

 

Roedd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar y ddarpariaeth o wasanaethau i droseddwyr benywaidd, a bydd hefyd yn ceisio gwella dealltwriaeth o anghenion penodol menywod sy'n troseddu a’r hyn sy’n eu gwneud yn agored i niwed.

 

Y dirwedd o ran polisi

Mae cyfiawnder a charchardai’n faterion a gedwir yn ôl, sy’n golygu mai cyfrifoldebau San Steffan a Llywodraeth y DU ydynt. Ond mae nifer o feysydd lle mae’r system cyfiawnder troseddol yn rhyngweithio â buddiannau datganoledig a’r ddarpariaeth o wasanaethau. Er enghraifft, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ofal iechyd mewn carchardai ac am wasanaethau cymdeithasol, ac mae’n atebol o ran cydymffurfio â pholisi a deddfwriaeth ehangach.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi ei dull ar gyfer polisi yn ei Glasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i weithio gyda phartneriaid ym meysydd datganoledig ac annatganoledig i leihau nifer y menywod yn y system cyfiawnder troseddol drwy nifer o gamau gweithredu ac ymyriadau.

Cylch gorchwyl

Fel rhan o'r gwaith hwn, gwnaeth y Pwyllgor ystyried:

>>>> 

>>>y cynnydd a wneir, os o gwbl, gan Lywodraeth Cymru tuag at wireddu ei huchelgeisiau ar gyfer trawsnewid gwasanaethau i droseddwyr benywaidd, gan gynnwys gweithredu'r Glasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd;

>>>y dystiolaeth o blaid datblygu Canolfannau Adsefydlu Menywod a’r dadleuon dros leihau dedfrydau o garchar i fenywod yng Nghymru, gan gynnwys safbwyntiau ar y Ganolfan i Fenywod a fydd yn agor yn Abertawe;

>>>ar ddarpariaeth a chymorth priodol sydd ar gael ar hyn o bryd i grwpiau gwahanol o fenywod sydd wediu dedfrydu ir carchar, gan gynnwys menywod o dan 18 oed, menywod ag anableddau, menywod â phroblemau iechyd meddwl, menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod sydd wedi dioddef trais rhywiol neu gam-drin domestig, menywod â phroblemau gydag alcohol neu gyffuriau, a menywod Cymraeg eu hiaith.

<<<< 

Casglu tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad a chafodd 20 o ymatebion. Ceir gwybodaeth am y sesiynau tystiolaeth lafar o dan y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.

Yn dilyn y sesiynau tystiolaeth, rhoddwyd y wybodaeth ychwanegol a ganlyn i’r Pwyllgor:

Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF – Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth

Iechyd Cyhoeddus Cymru – Adroddiad Nodi Llwybrau Menywod at Droseddu

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol – Ceisiadau i unedau mamau a babanod yn y carchar: sut y gwneir penderfyniadau a rôl gwaith cymdeithasol

Canolfan Merched Gogledd Cymru – Cylchlythyr Braenaru i Fenywod

Adroddiad Cryno ar gyfer Gwerthuso Dull System Gyfan y Cynllun Braenaru i Fenywod a Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25

Cymru Ddiogelach - Gwybodaeth Ychwanegol

Nodyn cyfarfod gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Ionawr 2023

 

Adrodd

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad o’r enw “Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol” ddydd Mercher 08 Mawrth 2023.

Ar ôl ei gyhoeddi, dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Mae ein hymchwiliad yn cadarnhau nad yw'r system cyfiawnder troseddol ar ei ffurf bresennol yn diwallu anghenion menywod o Gymru. Er gwaethaf cytundeb cyffredinol fod dedfrydau byr o garchar am droseddau di-drais yn wrthgynhyrchiol ac mewn gwirionedd yn cynyddu'r tebygolrwydd o aildroseddu, nid oes digon o gynnydd yn cael ei wneud ac mae argaeledd cyfyngedig ac anghyson dewisiadau amgen yn y gymuned yn her benodol.”

 

Ymateb y Llywodraeth

Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 28 Ebrill 2023.

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mai 2023.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/07/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau