Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ysgolion
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ysgolion
Cyflwynwyd y Bil Ysgolion (y
Bil) yn Nhŷ'r
Arglwyddi ar 11 Mai 2022.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi mai diben y Bil yw "gwneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio
Academïau; ynghylch ariannu ysgolion ac addysg leol; ynghylch presenoldeb plant
yn yr ysgol; ynghylch rheoleiddio sefydliadau addysgol annibynnol; ynghylch
camymddwyn gan athrawon; ac at ddibenion cysylltiedig."
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad
Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sydd fel rheol yn dod o fewn cymhwysedd Senedd
Cymru.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol - Gorffennaf 2022
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 89.5KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 7
Gorffennaf 2022.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 17
Tachwedd 2022 (PDF 40.1KB)
Ar 20 Medi 2022, cytunodd
(PDF 40.9KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 1 Rhagfyr 2022.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 150KB) ar 24 Tachwedd 2022.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad (PDF
135KB) ar 28 Tachwedd 2022.
Cadarnhaodd
(PDF 277KB) Llywodraeth Cymru na fydd y Bil yn mynd yn ei flaen ac na fydd yn
ymateb i adroddiadau'r pwyllgorau ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2022
Dogfennau
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysge - 16 Rhagfyr 2022 PDF 203 KB
- Llythyr gan Weinidog Addysg a'r Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - 10 Tachwedd 2022 PDF 239 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 3 Hydref 2022 PDF 162 KB
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Llywydd - 19 Gorffennaf 2022 PDF 277 KB