NDM8064 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hepatitis C
NDM8064 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod Cymru
wedi gwneud cynnydd da tuag at ddileu feirws hepatitis C drwy sefydlu
rhwydwaith clinigol cenedlaethol hynod effeithiol, yn ogystal â chael mynediad
teg a thryloyw at driniaeth ledled y wlad.
2. Yn nodi'r
llwyddiannau arloesol mewn sawl maes, gan gynnwys dileu feirws hepatitis C ym
mhoblogaeth Carchar Ei Mawrhydi Abertawe (y carchar remánd cyntaf yn y DU), yn
ogystal â thrawsblannu a thrin organau'n llwyddiannus gan roddwyr a oedd wedi
eu heintio â feirws hepatitis C i dderbynwyr newydd - peth arall i
ddigwydd fan hyn am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
3. Yn cydnabod, er bod
Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i'w nod o ddileu strategol, fod
angen mwy o flaenoriaethu ac adnoddau gwleidyddol i gau'r bwlch profi a
thriniaeth sydd wedi dod i'r amlwg oherwydd pandemig COVID-19 ac i sicrhau na
fydd yn mynd tu hwnt i ddyddiad targed 2030.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) gorfodi ailsefydlu
gwasanaethau rheng flaen ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed a gwasanaethau
lleihau niwed ym mhob ardal bwrdd iechyd, fel y gellir ailddechrau'r broses o
nodi, profi, a thrin cleifion feirws hepatitis C yng Nghymru, a'u cysylltu â
gofal;
b) datblygu cynllun
strategol cenedlaethol i ddileu feirws hepatitis C erbyn 2030 fan bellaf, sydd
ag adnoddau cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n canolbwyntio ar y
llwybr cyfan;
c)
sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu hariannu a'u bod yn atebol am gyflawni'r
cynllun strategol cenedlaethol, o ran darparu gwasanaethau, monitro data ac
adrodd ar berfformiad.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn
ei le:
4. Yn nodi:
a) disgwyliad
Llywodraeth Cymru y bydd gwasanaethau rheng flaen ar gyfer feirysau a gludir yn
y gwaed a gwasanaethau lleihau niwed, gan gynnwys ar gyfer hepatitis C, yn cael
eu hailsefydlu ym mhob ardal bwrdd iechyd cyn gynted â phosibl;
b) bod Llywodraeth
Cymru yn gweithio’n agos gyda’r GIG yng Nghymru i gefnogi ei gynlluniau i
sicrhau y gall Cymru gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd, sef dileu
hepatitis C erbyn 2030;
c)
bod systemau sefydledig ar waith i sicrhau bod byrddau iechyd yn cael eu
cefnogi a’u dal yn atebol am gyrraedd y targed o ran darparu gwasanaethau,
monitro data ac adrodd ar berfformiad.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2022