Deintyddiaeth
Inquiry3
Yn dilyn
adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd ym mis
Mai 2019, sef
Dechrau Ffres: Ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
y Chweched Senedd yn ystyried a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i bontio’r
bwlch o ran anghydraddoldebau iechyd y geg, ac i ailadeiladu deintyddiaeth yng
Nghymru yn dilyn y pandemig COVID-19 ac yng nghyd-destun costau byw cynyddol.
Mae'r Pwyllgor yn
ystyried yn benodol:
>>>>
>>> I ba raddau y mae mynediad at ddeintyddiaeth
y GIG yn parhau i fod yn gyfyngedig, a beth yw’r ffordd orau o ddal i fyny â'r
ôl-groniad o ran gofal deintyddol sylfaenol, gwasanaethau ysbytai a
gwasanaethau orthodontig.
>>> Gwell gwybodaeth am iechyd y geg, gan
gynnwys nifer y bobl sy’n manteisio ar ofal deintyddol sylfaenol y GIG ledled
Cymru yn dilyn ailddechrau gwasanaethau, a bod angen ymgyrch a ariennir gan y
Llywodraeth i roi sicrwydd i’r cyhoedd bod practisau deintyddol yn amgylcheddau
diogel.
>>> Cymhellion i recriwtio a chadw deintyddion y
GIG, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd â lefelau o angen mawr.
>>> Anghydraddoldebau iechyd y geg, gan gynnwys
ailddechrau rhaglen y Cynllun Gwên a’r posibilrwydd o’i hehangu i blant 6-10
mlwydd oed; gwell dealltwriaeth o anghenion iechyd y geg pobl 12-21 oed;
capasiti gwasanaethau deintyddol yn y cartref i bobl hŷn a'r rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal
(rhaglen 'Gwên am
Byth'); a gofyn, i ba raddau y mae cleifion (yn enwedig cleifion risg isel) yn
dewis gweld ymarferwyr preifat, ac a oes risg o greu gwasanaeth iechyd
deintyddol dwy haen. Lles a morâl y gweithlu.
>>> Y posibilrwydd o ehangu'r Gwasanaeth
Deintyddol Cymunedol ymhellach.
>>> Gwariant Llywodraeth Cymru ar ddeintyddiaeth
y GIG yng Nghymru, gan gynnwys buddsoddi mewn arferion awyru a diogelu ar gyfer
y dyfodol.
>>> Effaith yr argyfwng costau byw ar ddarparu
gwasanaethau deintyddiaeth yng Nghymru a mynediad at y gwasanaethau.
<<<
Casglu
tystiolaeth
Rydym am sicrhau
bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n
adlewyrchu teimladau’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn
effeithio arnynt.
>>>>
>>>Cawsom
dros 20
ymateb ysgrifenedig i’n galwad am dystiolaeth
>>>Ym
mis Awst a mis Medi 2022, cynhaliodd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd gyfweliadau
â phobl ledled Cymru am eu profiadau nhw o faterion ym maes deintyddiaeth.
>>>Yn
hydref 2022, gwnaethom gynnal sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid, y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Swyddog Deintyddol Cymru
<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/07/2022
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Deintyddiaeth (Wedi ei gyflawni)