NDM8047 Dadl Plaid Cymru - Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf
NDM8047 Dadl Plaid Cymru - Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf
NDM8047 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i'w wneud yn
addas i'r diben wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu’r
pecynnau cymorth sylweddol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r
afael â’r argyfwng costau byw, sy’n werth cyfanswm o £380m ers Tachwedd 2021,
gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd er mwyn
darparu £200 tuag at filiau ynni nad oes gofyn ei ad-dalu, a £177m ar gyfer y
cynllun cymorth costau byw.
2. Yn nodi bod
Llywodraeth y DU wedi methu’n llwyr â mynd i’r afael yn briodol â’r argyfwng
hwn, ac wedi methu ag amgyffred pa mor ddifrifol yw ei effaith ar bobl ledled
Cymru.
3. Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu’r cynlluniau cymorth tanwydd presennol yn
barhaus ynghyd ag ymyriadau posibl i’r dyfodol.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i:
a) gwarantu bod unrhyw
newidiadau i'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn cael eu gwneud cyn yr hydref er
mwyn sicrhau bod y taliad yn cyrraedd cymaint o aelwydydd cymwys â phosibl;
b) ehangu cymhwysedd y
taliad tanwydd gaeaf i gyrraedd mwy o aelwydydd mewn angen ar incwm isel sy'n
agored i niwed, fel y rhai sy'n gymwys i gael credyd pensiwn;
c) lansio ymgyrch
ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i wella ymwybyddiaeth
a chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2022