NDM8038 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent
NDM8038 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent
NDM8038 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer
Bil i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent.
2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai:
a) cyflwyno cytundeb
tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb tenantiaeth enghreifftiol Llywodraeth y DU
a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021;
b) cynnig cyfres o
fesurau a fyddai'n sicrhau nad yw perchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol yn
cael eu trin yn annheg o ganlyniad i'r math o lety y maent yn byw ynddo;
c) caniatáu mai'r
sefyllfa ddiofyn gyfreithiol yw caniatáu anifeiliaid anwes mewn tai
cymdeithasol a'r sector rhentu preifat, oni bai bod rheswm y gellir ei
gyfiawnhau dros beidio â gwneud hynny;
d) ymestyn caniatáu
anifeiliaid anwes mewn llochesi a llety i bobl ddigartref.
Cefnogwyr
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2022