NDM8042 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023
NDM8042 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023
NDM8042 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad
yr Undeb Darlledu Ewropeaidd ar 17 Mehefin 2022.
2. Yn gresynu at y ffaith
na ellir cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yn Wcráin oherwydd ymosodiad
parhaus Rwsia.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â'r BBC a'r Undeb Darlledu Ewropeaidd ynghylch
cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yng Nghymru.
Undeb
Darlledu Ewrop: datganiad ar gynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023
(Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i baratoi cais i Gymru gymryd rhan fel
cenedl yn ei rhinwedd ei hun yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, gan hyrwyddo
presenoldeb Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/06/2022