Datgarboneiddio tai: datgarboneiddio'r sector tai preifat
Inquiry4
Wrth bennu ei
flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith (‘y Pwyllgor’) i gynnal ymchwiliad aml-gam ar ddatgarboneiddio
tai yng Nghymru.
Yn ystod cymal
cyntaf ymchwiliad y Pwyllgor i ddatgarboneiddio tai, clywsom fod ffocws
Llywodraeth Cymru, hyd yma, wedi bod ar ddatgarboneiddio tai cymdeithasol. Er
bod rhanddeiliaid yn cytuno ei bod yn synhwyrol dechrau’r rhaglen ôl-osod yn y
sector tai cymdeithasol, roeddent yn pryderu am y diffyg cynnydd a wnaed tuag
at ddatblygu cynllun i ddatgarboneiddio tai preifat.
Gan adeiladu ar y
dystiolaeth a gafwyd eisoes gan randdeiliaid, mae'r Pwyllgor yn cyflawni darn
bach o waith sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio'r sector tai preifat (hynny
yw, y sector rhentu preifat a’r sector perchen-feddianwyr).
Bydd y Pwyllgor
hefyd yn trafod: >>>>
>>>y
dull presennol o ddatgarboneiddio tai yn y sector rhentu preifat a’r sector
perchen-feddianwyr yng Nghymru, gan gynnwys effeithiolrwydd rhaglenni presennol
a chymorth ar gyfer ôl-osod;
>>>rôl
targedau ôl-osod sy’n benodol i’r sector i helpu i ysgogi newid;
>>>y
camau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i fwrw ymlaen â rhaglen ôl-osod ar
gyfer y sectorau hyn yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor;
>>>y
prif heriau sy’n gysylltiedig â darparu rhaglen ôl-osod yn y sectorau hyn, gan
gynnwys heriau ariannol, ymarferol ac ymddygiadol, a’r camau y mae’n rhaid i
Lywodraeth Cymru (a’i phartneriaid) eu cymryd i’w goresgyn;
>>>sut y
gellir taro’r cydbwysedd cywir rhwng dylanwadu/cymell perchnogion tai a
landlordiaid yn y sector preifat i ôl-osod eu heiddo a rheoleiddio i godi
safonau i ysgogi cynnydd; ac
>>>effeithiolrwydd
y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio dylanwadu ar
benderfyniadau ar faterion a gedwir yn ôl i gefnogi’r gwaith o
ddatgarboneiddio’r sectorau hyn.
Casglu
tystiolaeth
Lansiodd y
Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 04 Gorffennaf 2022. Daeth yr
ymgynghoriad i ben ar 22 Awst 2022. Mae'r holl ymatebion
wedi'u cyhoeddi.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar ar 5 Hydref a 20 Hydref 2022.
Cynhaliodd y Tîm
Ymgysylltu â Dinasyddion gyfres o 14 o gyfweliadau manwl yn ystod mis Awst a
mis Medi 2022. Nod y cyfweliadau oedd casglu barn landlordiaid preifat a
pherchnogion tai, er mwyn deall ymhellach y rhwystrau gwirioneddol a
chanfyddedig i ôl-osod mesurau effeithlonrwydd ynni yn eu heiddo. Mae'r
papur (PDF 240KB) hwn yn crynhoi canfyddiadau'r cyfweliadau hynny.
Ar 6 Hydref, ysgrifennodd
y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd (PDF 145KB) ynghylch cynnydd
Llywodraeth Cymru tuag at ddatblygu strategaeth gynhwysfawr a chynllun cyflawni
ar gyfer datgarboneiddio tai. Ymatebodd
y Gweinidog (PDF 158KB) ar 10 Tachwedd 2022.
Adroddiad
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei adroddiad: Datgarboneiddio'r
sector tai preifat (PDF 2.6MB) ar 28
Chwefror 2023.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/06/2022
Ymgynghoriadau
- Datgarboneiddio tai: datgarboneiddio'r sector tai preifat (Wedi ei gyflawni)