Adferiad Gwyrdd
Adferiad Gwyrdd
Wrth bennu ei
flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith (“y Pwyllgor) i archwilio cynnydd y gwaith o weithredu adroddiad
y Grŵp Gorchwyl a
Gorffen ar Adferiad Gwyrdd. Cafodd y Grŵp, sy’n cael ei arwain gan Gadeirydd Cyfoeth
Naturiol Cymru, Syr David Henshaw, ei sefydlu ym mis Mai 2020 gan Lywodraeth
Cymru er mwyn nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar Gynllun Adfer yn sgîl
COVID-19 Llywodraeth Cymru.
Bydd y Pwyllgor
yn archwilio'r meysydd a ganlyn:
>>>>
>>> Cynnydd o ran bwrw ymlaen â'r 'camau
blaenoriaeth' a nodwyd yn adroddiad Adferiad Gwyrdd: Blaenoriaethau ar gyfer
Gweithredu;
>>> Cynnydd o ran bwrw ymlaen â'r argymhellion yn
adroddiad Adferiad Gwyrdd: Cefnogi'r Sector Amgylcheddol yng Nghymru;
>>> Datblygu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol Cymru;
>>> Y camau nesaf
<<<
Casglu
tystiolaeth
Yn ei gyfarfod ddydd Iau 30 Mehefin, clywodd
y Pwyllgor tystiolaeth gan gynrychiolwyr y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd.
Clywodd y
Pwyllgor tystiolaeth hefyd gan banel o arbenigwyr o'r sector amgylcheddol i
gasglu eu safbwyntiau ar y cynnydd tuag at Adferiad Gwyrdd.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/06/2022