NNDM8018 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Grymuso cymunedau

NNDM8018 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Grymuso cymunedau

NNDM8018 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Cymru'n gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd yn rhedeg asedau sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt.

2. Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae grwpiau cymunedol wedi'i wneud o ran cefnogi pobl leol drwy heriau'r pandemig.

3. Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai "ddatblygu rhaglen o rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector gwirfoddol, gan weithredu fel gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu cymunedol".

 4. Yn nodi'r rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn aml yn ei chwarae o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau, a gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i sicrhau menter gymunedol lwyddiannus.

5. Yn nodi adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, Ein Tir: Cymunedau a Defnydd Tir, a ganfu mai cymunedau Cymru yw'r rhai lleiaf grymus ym Mhrydain ac sy'n galw am ad-drefnu sylweddol ym maes polisi cymunedol yng Nghymru.

6. Yn nodi ymhellach adroddiad diweddar Canolfan Cydweithredol Cymru, Tir ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru.

7. Yn nodi nad oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol.

8. Yn credu bod galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig yn allweddol i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach.

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu cyflwr sy'n galluogi gweithredu cymunedol;

b) edrych i mewn i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol 

Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir

Tir ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru

Cyd-gyflwynwyr

Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Buffy Williams (Rhondda)

Cefnogwyr

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Joel James (Canol De Cymru)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Sam Rowlands (Gogledd Cymru)

Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2022