P-06-1285 Codi'r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored ar unwaith
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ryan Jewell, ar ôl casglu cyfanswm o 5,143
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar 21 Rhagfyr 2021, fe wnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniad unwaith eto i
wahardd pobl rhag mynd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored. Nid yn unig y
bydd hyn yn cael effaith negyddol ar lesiant meddyliol miloedd o bobl, bydd
hefyd yn dinistrio clybiau chwaraeon ym mhob rhan o’r wlad sydd â rôl mor
hanfodol yn eu cymunedau. Defnyddiwch eich llais democrataidd a dangoswch i’r
rhai sydd mewn grym eich bod yn gwrthwynebu’r cyfyngiadau hyn, a fydd yn gwneud
mwy o niwed nag o les.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Islwyn
- Dwyrain De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/06/2022