P-06-1284 Cadwch ysgolion ar agor yn nhymor y Gwanwyn 2022. Digon yw digon.
P-06-1284 Cadwch ysgolion ar agor yn nhymor y Gwanwyn 2022. Digon yw digon.
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Bianca Simpson Lepore, ar ôl casglu cyfanswm o 909 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
plant wedi dioddef digon yn ystod y pandemig ac mae wir angen i'w bywyd ysgol
barhau i fod mor normal â phosibl. Mae’n iawn gwneud addasiadau rhesymol ond
mae cau ysgolion i lawr wedi cael cymaint o effeithiau niweidiol sydd wedi'u
cofnodi'n glir. Yn sicr, oherwydd hyn, ni ellir ei gyfiawnhau ymhellach.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/06/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gan nad oes unrhyw reoliadau COVID-19 ar waith nawr a bod
ysgolion yn gweithredu fel arfer, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch
i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/06/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/06/2022