P-06-1282 Dylid creu Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol Cymru
P-06-1282 Dylid creu Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ben Gwalchmai, ar ôl casglu cyfanswm o 410
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar hyn o bryd, mae 2 yn Lloegr ac 1 yn yr Alban, ond dim un yng Nghymru –
“gwlad beirdd a chantorion”. Mae diffyg Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol
Cymru yn fwlch yn ein bywyd diwylliannol, cenedlaethol. Er bod y Llyfrgell
Genedlaethol yn Aberystwyth yn sefydliad rhagorol, nid yw eto’n lle sy’n helpu
barddoniaeth i flodeuo. Dim ond Llyfrgell Farddoniaeth bwrpasol all fod yr
archif ar gyfer rhywfaint o’n barddoniaeth hynaf, bod yn lle pererindod a thwf
i’n beirdd a bod yn sefydliad sy’n pontio ein traddodiadau barddonol dwyieithog.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/06/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried bod y
deisebydd eisoes wedi cyfarfod â Llywodraeth Cymru ac wedi cael gwahoddiad i
ddrafftio cynnig ar gyfer y Dirprwy Weinidog, estynnodd yr Aelodau
longyfarchiadau i’r deisebydd, mynegwyd eu gwerthfawrogiad o’r angen i gadw a
hyrwyddo barddoniaeth Gymraeg, a chytunwyd i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
27/06/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2022