P-06-1281 Rhaid atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Twr Gwylio a'r Hen Harbwr yn y Barri
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 1,633
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i atal gollyngiadau carthion
amrwd ar fyrder ym Mae'r Tŵr Gwylio a’r Hen Harbwr yn y Barri. Mae'r
gollyngiadau hyn yn deillio o systemau gorlif carthffosydd cyfun ac mae mwy a
mwy o garthffosiaeth yn cael ei ollwng oherwydd y nifer cynyddol o achosion o
law trwm a welwn o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd.
Cafodd y bae hwn ei ddynodi’n ddiweddar yn ardal sy’n cynnal bywyd gwyllt
pwysig ac mae Bae’r Tŵr Gwylio yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan lawer
o grwpiau nofio dŵr oer, padlfyrddwyr a chaiacwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Rydym yn llawn sylweddoli bod gwastraff heb ei drin sy’n cael ei ryddhau o
systemau gorlif carthffosydd cyfun yn broblem genedlaethol ac y bydd angen
buddsoddi symiau mawr o arian yn ein rhwydwaith carthffosiaeth.
Ond credwn hefyd fod pobl Cymru yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r llygredd
echrydus hwn a’u bod yn awyddus i weld camau’n cael eu cymryd i ddatrys y
broblem hon.
Yn anffodus, nid oes unrhyw fannau monitro yn y bae fel sydd ym Mae
Jacksons, Bae Whitmore a Bae Knap.
Galwn felly am i’r lleoliad hwn gael ei ychwanegu ar fyrder at restr
Cyfoeth Naturiol Cymru o safleoedd samplu ansawdd dŵr ymdrochi.
Mae bae’r Tŵr Gwylio a’r Hen Harbwr yn cynnal bywyd gwyllt a phobl,
felly dylai Dŵr Cymru roi blaenoriaeth i fuddsoddi yn y safleoedd hyn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/07/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y pryderon
cynyddol am gyflwr ein hafonydd a’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd gan
bwyllgorau’r Senedd, mewn cyfarfodydd llawn, gan Lywodraeth Cymru a Dŵr
Cymru.
Cytunodd yr Aelodau i annog y deisebwyr i fynd ar drywydd
y broses sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i bobl wneud cais i ddynodi
ardaloedd newydd o ddyfroedd ymdrochi, a chytunwyd i rannu adroddiad a
gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Wrth wneud hynny,
cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
11/07/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2022