P-06-1280 Canslwch arholiadau Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru ar gyfer haf 2022
P-06-1280 Canslwch arholiadau Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru ar gyfer haf 2022
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Azeem Khan, ar ôl casglu cyfanswm o 146
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rwy’n teimlo y dylai arholiadau yng Nghymru gael eu canslo ar gyfer haf
2022 oherwydd mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar amser addysgu disgyblion
i wahanol raddau ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn ysgol. Rwy’n teimlo
hefyd pe bai arholiadau yn mynd yn eu blaen y byddai’n cael effaith ddramatig
ar iechyd meddwl a gorbryder disgyblion ar adeg lle mae cyfraddau hunanladdiad
ymhlith pobl yn eu harddegau ar eu huchaf. Fy marn i a channoedd o ddisgyblion
eraill yw y dylid canslo arholiadau disgyblion ar gyfer haf 2022.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/06/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac roedd yn cydnabod yr
heriau sylweddol y mae dysgwyr, athrawon a rhieni wedi’u hwynebu yn ystod y
pandemig a’r effaith barhaus arnynt. O ystyried bod dysgwyr wedi dechrau sefyll
eu harholiadau Safon Uwch ac UG ar 16 Mai 2022, ac yng ngoleuni’r camau
lliniarol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i leddfu rhywfaint o’r pwysau ar ein
pobl ifanc, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
13/06/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2022