NDM7997 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG
NDM7997 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhestrau aros y GIG
NDM7997 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun digonol
i fynd i'r afael ag ôl-groniadau rhestrau aros y GIG yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer
gofal a gynlluniwyd, a gyhoeddwyd ar 26 Ebrill, wedi’i ddatblygu mewn
partneriaeth â chlinigwyr i sicrhau bod targedau’n heriol ond yn gyraeddadwy.
2. Yn nodi ymhellach y bydd manylion gweithredol pellach
ynghylch sut y bydd uchelgeisiau’r cynllun yn cael eu cyflawni yn cael eu
cynnwys yng nghynlluniau tymor canolig integredig y GIG sydd wrthi’n cael eu
hadolygu.
Trawsnewid
a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/05/2022