P-06-1279 Rhowch y gorau i fod yn anghyson o ran canllawiau COVID. Gadewch i ysgolion gael yr un hyblygrwydd â sinemâu neu stadia
P-06-1279 Rhowch y gorau i fod yn anghyson o ran canllawiau COVID. Gadewch i ysgolion gael yr un hyblygrwydd â sinemâu neu stadia
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Catherine Anne Stone, ar ôl
casglu cyfanswm o 421 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Os gall rhieni fynd rygbi neu'r sinema gyda phàs COVID fe
ddylen nhw allu mynd i gyngerdd neu ddigwyddiad mewn ysgol. Mae canllawiau
COVID-19 presennol ar gyfer ysgolion yn argymell bod rhyngweithio agos rhwng
oedolion, staff a dysgwyr yn cael ei leihau. O ganlyniad, nid oes gan ysgolion
yr hyblygrwydd i wahodd rhieni/gofalwyr i'r ysgol. Dyma’r sefyllfa er gwaetha’r
ffaith bod theatrau, sinemâu a stadia rygbi i gyd yn agored ar gyfer busnes.
Rwy’n gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried y canllawiau ar gyfer ysgolion.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae profion llif unffordd a phasiau COVID ar waith, ac
mae’r cynllun brechiadau atgyfnerthu eisoes yn mynd rhagddo.
Defnyddiodd miloedd o gefnogwyr y dulliau hyn i gael
mynediad i Stadiwm y Principality ar 30 Hydref er mwyn mynd i gêm Cymru yn
erbyn Seland Newydd.
https://llyw.cymru/defnyddio-pas-covid-y-gig-i-fynd-i-ddigwyddiadau-mawr-lleoliadau
Bu’n rhaid i’n hysgolion cynradd lleol gau eu drysau ar
ddiwrnodau chwaraeon, maen nhw wedi cael trafferth codi arian oherwydd y
canllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol, ac erbyn hyn maen nhw wedi cael
gwybod na all rhieni gael mynd i gyngherddau Nadolig am yr ail flwyddyn yn
olynol
Mae llesiant meddwl plant wedi dirywio oherwydd yr
ansicrwydd a'r ymdeimlad o ynysu. Fe ddylen ni fod yn cefnogi ein plant i
ddychwelyd i normalrwydd hefyd.
https://www.nhs.uk/every-mind-matters/supporting-others/childrens-mental-health/
https://www.bmj.com/content/bmj/374/bmj.n1730.full.pdf.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/06/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gan nad oes unrhyw reoliadau Covid-19 ar waith yn awr, a
chan fod ysgolion yn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch yr hyn sy’n briodol
i’w cymuned, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
13/06/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2022