P-06-1278 Cyflwyno gwersi ar fagu plant a sgiliau bywyd sylfaenol ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd
P-06-1278 Cyflwyno gwersi ar fagu plant a sgiliau bywyd sylfaenol ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Danielle Diver, ar ôl casglu cyfanswm o 258
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae pwysau cynyddol oherwydd y pandemig wedi arwain at gynnydd mewn
achosion o gam-drin plant. Yn 2020/21, cafodd dros 24.8 mil o droseddau
cam-drin plant eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, sy’n gynnydd o
2.9 mil o droseddau o gymharu â’r flwyddyn adrodd flaenorol.
Un ffordd o gefnogi cenedlaethau’r dyfodol pan fyddant yn dod yn rhieni yw
drwy gwricwlwm sy’n cynnig gwersi ar gyfrifoldebau rhieni, gofalu am y cartref,
rheoli arian, cymorth cyntaf sylfaenol, iechyd corfforol ac iechyd meddwl a
pharatoi prydau o fwyd maethlon ar gyllidebau tyn.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae angen i’r Llywodraeth dorri’r cylch cam-drin plant. Mae’n rhaid
cyfathrebu’n well a gweithio ar draws asiantaethau ym maes iechyd, gwasanaethau
cymdeithasol a gwasanaethau i blant, yn ogystal â gwneud ymdrech fawr i
hyrwyddo ymyraethau a rhaglenni ataliol. Dylai pob gweithiwr aml-asiantaeth
ddefnyddio’r un system fel bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol. Dylai
gwiriadau llesiant fod yn orfodol ar gyfer plant ifanc, gan gynnwys profion
deintyddol a deietegol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/06/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac yng ngoleuni ymateb y
Gweinidog sydd bellach yn nodi bod y cyfrifoldeb bellach ar ysgolion i nodi'r
gwersi sgiliau bywyd y maent am eu dysgu i'w disgyblion, cytunodd i gau'r
ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am godi ymwybyddiaeth o'r mater.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/06/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/05/2022