P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol
P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jacqueline Doig, ar ôl casglu 10,678
llofnodion ar-lein, a 490 ar bapur, sef cyfanswm o 11,168 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae symud gofal allan o'r sir yn rhoi oedolion a plant sydd mewn perygl o
ganlyniadau gwael neu farwolaeth hyd yn oed. Mae'n gwastraffu amser hollbwysig
pan nad yw amser ar ein hochr ni.
-Mae gennym 125,000 o drigolion a miliynau o dwristiaid. Bydd israddio’r
gwasanaeth yn golygu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn peryglu eu bywydau
yn fwriadol. Rhaid pwysleisio ein bod yn sir wledig, eang, gyda ffyrdd a
rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael. Purfa, gweithfeydd nwy, porthladdoedd
fferi, maes tanio, chwaraeon eithafol, ynghyd ag un o'r proffesiynau mwyaf
peryglus: ffermio.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae’n bosibl y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awgrymu nad yw’r
“Awr Aur” yn berthnasol bellach, gydag ambiwlansys â gwell offer a staff sydd
wedi’u hyfforddi’n well, ond mae hynny’n dibynnu ar fod ambiwlans ar gael i
helpu a rhoi’r gofal hwnnw ar unwaith. Mae hyn yn digwydd llai a llai, gydag
ambiwlansys yn methu ag ymddangos gan eu bod yn cael eu hanfon allan o’r sir,
yn methu â dadlwytho ac yn methu â dychwelyd i’r sir, i roi’r cymorth sydd ei
angen.
-Mae’n deimlad ofnadwy gwybod, os yw ein perthnasau neu ein plant yn cael
pwl o asthma sy’n peryglu bywyd, pwl o epilepsi, neu broblem arall lle mae
amser yn hollbwysig, fod y cynlluniau newydd yn golygu eu bod yn annhebygol o
gael cymorth a goroesi.
-Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dweud na fydd yn gwarantu y
byddai gofal brys yn aros yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg hyd nes (ac os) bydd
adeilad newydd ar waith!!! Mae hynny'n annerbyniol.
-Dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymrwymo i bolisïau recriwtio
trwyadl er mwyn sicrhau bod staff llawn yn cynnig gofal brys yn Ysbyty
Cyffredinol Llwynhelyg.
-Rydym wedi colli ffydd ac ymddiriedaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel
Dda ac nid ydym yn credu ei fod yn gweithio er lles gorau Sir Benfro.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/07/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y cafodd ei
thrafod yn angerddol yn y Senedd ar 29 Mehefin, ac mae’n cydnabod nad dyma’r
ddadl gyntaf nac yn debygol o fod y tro olaf i’r mater pwysig hwn ddod gerbron
y Senedd. Fodd bynnag, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar hyn o
bryd, gan ei fod wedi cynnal dadl ar y mater hwn eisoes. Cytunodd yr Aelodau i
gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater pwysig.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
23/05/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd a De Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/05/2022