NDM7991 Dadl: Hawliau Dynol
NDM7991 Dadl: Hawliau Dynol
NDM7991 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb a diogelu
cymunedau lleiafrifol yng Nghymru.
2. Yn nodi â
phryder difrifol y symudiadau mynych gan Lywodraeth y DU i leihau hawliau
dynol.
3. Yn credu bod
cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn tanseilio
amddiffyniadau allweddol i ddinasyddion ac yn codi materion cyfansoddiadol
sylweddol.
4. Yn credu bod
Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn tanseilio hawliau cymunedau
lleiafrifol ac yn peryglu'r hawl i brotestio’n gyfreithlon ac yn heddychlon.
5. Yn cytuno â
Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau
yn tanseilio'n ddifrifol y broses o ddiogelu hawliau dynol ac yn arwain at
ymyriadau difrifol â hawliau dynol.
6. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i wrthdroi ei dull o ymdrin â Hawliau Dynol, sy’n gam yn ôl,
a'r tramgwyddo’n erbyn y cyfansoddiad yn sgil hynny.
Diwygio’r
Ddeddf Hawliau Dynol: Mesur Hawliau Modern (Saesneg yn unig)
Bil
yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig)
Y
Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (Saesneg yn unig)
Cyd-gyflwynwyr
Sian Gwenllian
(Arfon)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/04/2022