Absenoldebau disgyblion o’r ysgol
Absenoldebau disgyblion o’r ysgol
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
ymchwiliad byr ar absenoldeb disgyblion o'r ysgolion.
Mae'r Pwyllgor
wedi cyhoeddi ei adroddiad
ysgrifenedig (PDF 1.6MB)
Ar 5 Ionawr
cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF
116KB) i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd
Mercher 8 Chwefror 2023.
Cefndir yr ymchwiliad
Nodwyd materion yn ymwneud ag
absenoldebau disgyblion o’r ysgol a’r effaith ar ddysgu a llesiant ehangach
plant a phobl ifanc gyda’r Pwyllgor yn ystod gwaith craffu blynyddol ar Estyn
ym mis Rhagfyr 2021. O ganlyniad i’r sesiwn hon, ysgrifennodd
(PDF 169KB) y Pwyllgor i bob awdurdod lleol ofyn am wybodaeth am sut maent yn
gweithio gydag ysgolion i fonitro a gwella presenoldeb; ac ar gyfer unrhyw
ddata sydd ganddynt ar niferoedd a chyfraddau absenoldeb.
Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar
31 Mawrth, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr â ffocws i bresenoldeb
disgyblion.
Ysgrifennodd y Pwyllgor at
Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr
adolygiad y mae wedi'i gomisiynu ar batrymau presenoldeb. Daeth ymateb
(PDF 1MB) i law ar 25 Ebrill.
Cylch Gorchwyl
Canolbwyntiodd yr ymchwiliad
hwn ar fater absenoldeb disgyblion sydd wedi’u cofrestru mewn ysgolion a
gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion. Edrychodd yr ymchwiliad yn benodol ar y
canlynol:
- Lefelau absenoldeb cyson
a’r rhesymau dros hynny
- P’un a yw absenoldebau
nad ydynt yn gysylltiedig â COVID yn uwch nag yr oeddent cyn pandemig
COVID 19, ac os felly, pam
- P’un a yw absenoldeb
cyson yn fwy cyffredin ymhlith grwpiau penodol o ddisgyblion (y rhai ag
Anghenion Dysgu Ychwanegol, rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim,
bechgyn a merched, grwpiau oedran penodol, ethnigrwydd) ac os felly, y
rhesymau dros hynny
- Y risgiau a’r canlyniadau
tymor byr a thymor hwy i ddysgwyr, er enghraifft o ran iechyd meddwl a
llesiant
- Yr effaith ar ddysgu a
chyrhaeddiad disgyblion
- A yw absenoldeb wedi arwain
at lefel uwch o ddadgofrestru disgyblion ac unrhyw orgyffwrdd ag addysg
ddewisol yn y cartref
- Effeithiolrwydd polisïau
a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru
- Lefel ac effeithiolrwydd
gweithredu a chymorth gan ysgolion, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru
- Pa mor effeithiol y caiff
rhieni gymorth a’u cynnwys
Casglu tystiolaeth
Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ym mis Mai a mis Mehefin
2022. Ceir mwy o wybodaeth am y sesiynau tystiolaeth o dan y tab cyfarfodydd ar
frig y dudalen.
Ymgynghoriad
Lansiodd y Pwyllgor alwad am
dystiolaeth ysgrifenedig ar 09 Mai 2022. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 20
Mehefin 2022. Mae'r holl ymatebion wedi'u cyhoeddi.
Yn ogystal â'r ymgynghoriad
ar-lein, cynhaliodd Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Pwyllgor 5 cyfarfod grŵp ffocws a 7 cyfweliad rhwng
24 Mai a 9 Mehefin ag amrywiaeth o rieni, pobl ifanc a staff mewn ardaloedd
gwahanol o Gymru. At hynny, cafwyd sylwadau gan un unigolyn ac un grŵp drwy e-bost. Lluniwyd crynodeb
(PDF 265KB) o'r themâu a ddaeth i'r amlwg.
Math o fusnes:
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2022
Dogfennau
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 6 Medi 2022 PDF 231 KB
- Absenoldeb disgyblion - Canfyddiadau gwaith ymgysylltu PDF 265 KB
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 25 Ebrill 2022 PDF 1 MB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (Saesneg yn unig) PDF 333 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Saesneg yn unig) PDF 124 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Sir Caerfyrddin (Saesneg yn unig) PDF 123 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Sir Powys (Saesneg yn unig) PDF 348 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bro Morgannwg (Saesneg yn unig) PDF 431 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Sir Ceredigion PDF 620 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Sir Ynys Môn PDF 225 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Saesneg yn unig) PDF 183 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Sir Ddinbych (Saesneg yn unig) PDF 197 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Rhondda Cynon Taf (Saesneg yn unig) PDF 691 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Abertawe (Saesneg yn unig) PDF 290 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Dinas Casnewydd (Saesneg yn unig) PDF 250 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Saesneg yn unig) PDF 210 KB
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Gwynedd PDF 139 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- Gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol gan Cyngor Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 280 KB
Ymgynghoriadau
- Absenoldeb Disgyblion (Wedi ei gyflawni)