Gwrandawiadau cyn penodi ar gyfer penodiadau cyhoeddus

Mae’r Senedd yn uniongyrchol gyfrifol am nifer fach o benodiadau cyhoeddus. Mae’r rhestr hon yn cynnwys Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r Comisiynydd Safonau. Mae’r Rheolau Sefydlog yn caniatáu i Bwyllgor priodol y Senedd gymryd tystiolaeth gan ymgeisydd i’w benodi i’r swydd honno, fel y gall ystyried a ddylai gefnogi’r penodiad.

Ers 2019 mae’r Senedd hefyd wedi cael gwahoddiad i gynnal gwrandawiadau cyn penodi i graffu ar rai ymgeiswyr Llywodraeth Cymru ar gyfer penodiadau cyhoeddus.

Roedd sicrhau bod gwrandawiadau cyn penodi yn rhan arferol o benodi cadeiryddion cyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn ymrwymiad a wnaed gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog yn ei faniffesto ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Lafur Cymru yn 2018. Y bwriad yw gwella dulliau craffu a thryloywder y broses o wneud penodiadau cyhoeddus.

Mae craffu cyn penodi yn cael ei gynnal ar ffurf ymgeisydd a ffefrir yn wynebu cwestiynau gan Bwyllgor perthnasol y Senedd. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad, fel arfer o fewn 48 awr i'r gwrandawiad, yn nodi ei farn ar addasrwydd yr ymgeisydd.

Y rolau a ystyrir yn addas ar gyfer craffu o’r fath fel arfer fyddai rolau sydd:

  • o ddiddordeb sylweddol i’r cyhoedd;
  • yn cael effaith sylweddol ar y cyhoedd; ac sy’n
  • yn cyfrannu’n sylweddol at hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yng Nghymru.

Mae enghreifftiau’n cynnwys cadeiryddion cyrff diwylliannol yng Nghymru, byrddau iechyd a’r Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd Cenedlaethaur Dyfodol.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/03/2022