Datgarboneiddio tai

Datgarboneiddio tai

Inquiry2

 

Wrth bennu ei flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) i gynnal ymchwiliad aml-gam ar ddatgarboneiddio tai yng Nghymru.

 

Bydd cam cyntaf yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ôl-osod cartrefi Cymru. Bydd y cam hwn yn dechrau yn nhymor yr haf pan fydd y Pwyllgor yn cynnal sesiynau tystiolaeth gyda rhanddeiliaid. Bwriad y cam cyntaf hwn yw galluogi'r Pwyllgor i asesu'r cynnydd a wnaed hyd yma cyn penderfynu ar y meysydd yr hoffai ymchwilio iddynt yn fanwl fel rhan o raglen waith tymor hwy.

 

Bydd ail gymal yr ymchwiliad yn cynnwys tri ymchwiliad ar wahân ond sy’n gysylltiedig â’i gilydd. Y cyntaf o'r rhain fydd 'Datgarboneiddio'r sector tai preifat' (hynny yw, y sector rhentu preifat a’r sector perchen-feddianwyr). Bydd y gwaith yn dechrau yn yr haf 2022 ac yn parhau tan yr hydref 2022.

 

Casglu tystiolaeth: cam cyntaf - ôl-osod cartrefi Cymru

 

Ysgrifennodd (PDF 116 KB) y Pwyllgor at y Gweinidog Newid Hinsawdd ar 14 Mawrth 2022 am y wybodaeth ddiweddaraf am:

- y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran bwrw ymlaen â phob un o’r argymhellion a wnaed gan y Grŵp Cynghori ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru yn ei adroddiad, Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell, ac

-am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Cartrefi addas ar gyfer y dyfodol: Yr Her Ôl-osod.

 

Ymatebodd (PDF 506KB)  y Gweinidog Newid Hinsawdd i lythyr y Pwyllgor ar 7 Ebrill 2022.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid ddydd Iau 28 Ebrill 2022.

 

Gohebiaeth mewn perthynas â'r argyfwng prisiau ynni:

Ar 10 Mai 2022 ysgrifennodd y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â’r cynnydd mewn prisiau ynni. Ymatebodd y Gweinidog ar 24 Mai 2022.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/03/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau