P-06-1267 Creu system adalw ar gyfer Aelodau o'r Senedd sy'n perfformio'n wael
P-06-1267 Creu system adalw ar gyfer Aelodau o'r Senedd sy'n perfformio'n wael
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Stan Robinson - Voice of Wales, ar ôl casglu
cyfanswm o 175 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno system lle y
gall etholwyr adalw eu Haelod o’r Senedd a galw is-etholiad yn dilyn hynny, yn
debyg i’r system a gyflwynwyd gan Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015.
Os yw Aelod o’r Senedd yn methu yn ei (d)dyletswydd, dylai fod system ar
waith i’w (d)disodli.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae hyn, yn fy marn i, yn enghraifft o hyn:
https://www.msn.com/en-gb/news/world/questions-over-statement-from-tory-ms-who-missed-crucial-senedd-covid-pass-vote-as-it-is-confirmed-he-was-offered-the-chance-to-vote-by-telephone/ar-AAPcowJ.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/04/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i anfon y
ddeiseb at y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd er mwyn i aelodau’r
Pwyllgor hwnnw ei hystyried fel rhan o’u trafodaethau presennol ynghylch ethol
Aelodau o’r Senedd yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
25/04/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Abertawe
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/04/2022