P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun
P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Emma Jane Granville, ar ôl casglu cyfanswm o
181 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Gwrthodwyd i o leiaf 27 o blant 11-12 oed gael cludiant i’w hysgol gyfun
agosaf. Mae gan rai o'r plant ifanc hyn gyflyrau meddygol fel asthma ac
awtistiaeth ac mae gan o leiaf 1 plentyn epilepsi ac mae disgwyl iddynt gerdded
i'r ysgol ym mhob tywydd. Mae'r plant hyn wedi cael eu gwahanu oddi wrth
ffrindiau sydd wedi gallu cael pas bws, a dim ond nifer gyfyngedig o blant sydd
wedi'u gwrthod. Mae'n warthus.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Dim ond nifer gyfyngedig o blant sydd wedi'u heithrio rhag cael pas bws, a
hynny oherwydd cyfreithiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, llywodraeth sydd
i fod yn rhoi blaenoriaeth i les plant. Mae yna oedolion ifanc 16 oed yn cael
pas oherwydd eu bod yn yr ysgol cyn i'r gyfraith hon gael ei newid, felly er
bod y rhain yn ddigon aeddfed i ddod o hyd i fath arall o gludiant, mae plant
11 a 12 oed yn cerdded mewn tywydd echrydus ar hyd ffyrdd peryglus. Mae addysg
yn orfodol yn y wlad hon ac felly dylai cludiant fod ar gael i bob disgybl os
nad yw’r ysgol gyfun yn y pentref y maent yn byw ynddo. Rydym i gyd yn talu
trethi, gan gynnwys taliadau cymunedol ac ni ddylai’r Llywodraeth fod wedi
gwneud toriadau i’r ddarpariaeth addysg.
Dylai fod yn hanfodol i blant fedru cyrraedd yr ysgol yn ddiogel ac yn
sych. Creulondeb llwyr yw gwneud i blant ifanc gerdded 3 milltir mewn pob math
o dywydd yn wlyb socian ac yn eistedd mewn gwersi drwy'r dydd.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/03/2022