P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru Cefndir
P-06-1263 Rheoli llygredd sy'n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru Cefndir
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Keith Clarke, ar ôl casglu cyfanswm o 118
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
1. Cyflwyno moratoriwm ar unwaith o unrhyw unedau dofednod dwys newydd yn
nalgylchoedd Afon Gwy ac Afon Hafren sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
2. Cadw rheolaeth lym ar y broses o wasgaru tail yn ôl y llwyth ffosffad yn
y ddaear
3. Monitro lefelau ffosffad
4. Cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw achos o dorri deddfwriaeth
llygredd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae ansawdd dŵr a bioamrywiaeth wedi gwaethygu yn y ddwy afon yn ystod
y blynyddoedd diwethaf oherwydd lefelau uchel o nitradau a ffosffadau sy’n
arwain at dwf algâu. Mae hyn wedi arwain at ddirywiad sylweddol mewn
bioamrywiaeth. Llygredd o ddŵr ffo sy’n deillio o waith amaethyddol, yn
enwedig o unedau dofendod dwys (IPUs), yw’r prif achos sy’n cyfrannu at fwy o
lygredd yn yr afonydd hyn. Mae angen cadw rheolaeth lym ar lygredd sy’n deillio
o waith amaethyddol ffermydd er mwyn atal trychineb ecolegol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/06/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a
Materion Gwledig wedi gwneud rhywfaint o waith manwl yn ddiweddar ar adolygu’r
rheoliadau, ac wedi gwneud 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Yn sgil y gwaith
sydd eisoes wedi’i wneud ar y mater, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei
wneud. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/05/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/03/2022