Trafnidiaeth Gyhoeddus
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith (“y Pwyllgor”) yn cynnal digwyddiad i randdeiliaid ar ddydd Iau
17 Mawrth, er mwyn clywed gan grwpiau sy'n cynrychioli teithwyr a grwpiau
eraill am wasanaethau bysiau a rheilffyrdd yng Nghymru.
Mae’r Pwyllgor yn awyddus i drafod:
>>>>
>>> Eich barn am gyflwr gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd Cymru ar
hyn o bryd a'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael;
>>> Beth ddylid ei flaenoriaethu wrth adfer bysiau a rheilffyrdd
yng Nghymru ar ôl y coronafeirws, a sut y gellir annog teithwyr i ddychwelyd i
sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei thargedau o ran newid dulliau
teithio a newid yn yr hinsawdd; a
>>> Beth ydych chi’n ei feddwl am y cynigion o ran diwygio bysiau
a rheilffyrdd – gan gynnwys cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio'r diwydiant
rheilffyrdd, a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau
bysiau, a Bil Bysiau Cymru sydd i ddod.
Bydd y trafodaethau hyn yn llywio gwaith y Pwyllgor wrth graffu ar Drafnidiaeth
Cymru a'i waith craffu ar bolisïau trafnidiaeth gyhoeddus a'r Bil Bysiau maes o
law.
Ochr yn ochr â hyn, bydd y Pwyllgor yn gwneud rhagor o waith ymgysylltu â'r
cyhoedd er mwyn ystyried profiadau a safbwyntiau defnyddwyr trafnidiaeth
gyhoeddus ledled Cymru.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/02/2022