Iechyd menywod a merched

Iechyd menywod a merched

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi nodi iechyd menywod fel blaenoriaeth yn ei strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.

 

Dyma’r gwaith a wnaed hyd yma:

 

>>>> 

>>>Tynnodd nifer o ymatebwyr i ymgynghoriad y Pwyllgor ar flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd yn haf 2021 sylw at ddiffyg cynllun iechyd penodol ar gyfer menywod a merched yng Nghymru.

>>>Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymrwymiad yn ystod gwaith craffu’r Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 ar 13 Ionawr 2022 i “ddatblygu cynnig iechyd menywod” a “rhoi ffocws gwirioneddol” ar faterion iechyd i fenywod.

>>>Ar 10 Mawrth 2022, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth lafar gyda Chlymblaid Iechyd Menywod Cymru.

>>>Ar 25 Mawrth 2022, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched a’r cynllun cysylltiedig. Ymatebodd y Gweinidog ar 11 Mai 2022.

>>>Ar 18 Gorffennaf, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog i ofyn cwestiynau pellach ynghylch y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched a'r cynllun cysylltiedig. Ymatebodd y Gweinidog ar 26 Medi 2022.

>>>Ym mis Tachwedd 2022, lansiodd y Pwyllgor ymchwiliad i ganserau gynaecolegol.

>>>Ar 6 Rhagfyr 2023, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad, Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol. Hefyd, cyhoeddodd y Pwyllgor grynodeb o’r adroddiad a datganiad i’r wasg cysylltiedig.

>>>Ar 8 Mawrth 2024, gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor.

>>>Ar 15 Mai 2024, cynhaliwyd dadl yn y cyfarfod llawn yn Siambr y Senedd.

>>>Ym mis Mehefin 2025, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r argymhellion yn Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol.  Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'n llythyr ar 28 Gorffennaf 2025.

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2022

Dogfennau