Iechyd menywod a merched
Inquiry2
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi
nodi iechyd menywod fel mater o flaenoriaeth i’w drafod yn ystod y Senedd hon.
Tynnwyd sylw at y
diffyg cynllun iechyd penodol i ‘fenywod a merched’ gan nifer o’r rhai a
ymatebodd i’n hymgynghoriad ar
flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd.
Rhoddodd y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymrwymiad yn ystod ein gwaith craffu ar gyllideb
ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 ar 13 Ionawr 2022 i ddatblygu cynnig
iechyd menywod a rhoi ffocws gwirioneddol ar faterion iechyd menywod.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gychwynnol gyda rhanddeiliaid allweddol ar 10
Mawrth 2022 i ymchwilio i’r dystiolaeth ar gyfer cynllun iechyd menywod a
merched, a’r hyn y dylai ei gynnwys.
Dyma’r gwaith a wnaed hyd yma:
Ø
Ar 10
Mawrth 2022, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth lafar gyda Chlymblaid
Iechyd Menywod Cymru.
Ø
Ar 25 Mawrth 2022, ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y
datganiad ansawdd iechyd menywod a merched a’r cynllun cysylltiedig.
Ø
Ar 11 Mai 2022, ymatebodd
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i lythyr y Pwyllgor.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2022
Dogfennau
- Llythyr gan y Cadeirydd i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched a’r cynllun cysylltiedig - 25 Mawrth 2022
PDF 164 KB
- Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch datganiad a chynllun ansawdd iechyd menywod a merched - 11 Mai 2022
PDF 464 KB