P-06-1252 Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio brechu plant 12 oed ac iau yn erbyn COVID-19
P-06-1252 Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio brechu plant 12 oed ac iau yn erbyn COVID-19
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard Taylor, ar ôl casglu cyfanswm o 478
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Risg isel y mae plant iach yn ei wynebu o ran COVID-19 ond maent yn wynebu
risgiau sy’n hysbys ac nad ydynt yn hysbys o frechiadau COVID-19. Mae
digwyddiadau andwyol a marwolaethau prin, ond difrifol, yn cael eu cofnodi ar
systemau monitro o amgylch y byd. Mae canllawiau swyddogol yn cael eu diweddaru
wrth i’r sgil-effeithiau ddod yn fwy amlwg. Mae rhoi brechiadau COVID-19 i
blant iach er mwyn diogelu oedolion yn anfoesol ac yn anghyfiawnadwy. Mae
dyletswydd foesol ar y Llywodraeth i weithredu’n ochelgar ac yn gymesur.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 23/05/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd yr ymateb gan
Lywodraeth Cymru a chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, Sefydliad Iechyd
y Byd a’r Canolfan Ewropeaidd ar gyfer Rheoli Clefydau, gan gytuno i ddiolch
i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
23/05/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/03/2022