P-06-1251 Dylid sicrhau'r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol
P-06-1251 Dylid sicrhau'r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Caley Crahart, ar ôl casglu cyfanswm o 158
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rwy’n fyfyriwr â ffibromyalgia ac anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth.
Roedd gallu cael mynediad at fy nghwrs o bell o fudd mawr i’m hiechyd corfforol
a’m hiechyd meddwl. Mae pobl anabl a niwrowahanol eraill wedi cael profiadau
tebyg a hoffent gael yr opsiwn i barhau i gael mynediad at eu cyrsiau yn y modd
hwn.
Dylai’r Senedd sicrhau’r hawl i fynediad o bell at addysg. Ymhellach, dylai
ddiogelu cyfrifoldeb sefydliadau addysgol yn y gyfraith i ymroi’n llwyr i greu
amgylchedd hygyrch, cynhwysol. Mae gwrthod hyn yn amddifadu pobl anabl a
niwrowahanol o’r bywyd a’r rhyddid rydym yn eu haeddu.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/07/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddiolch
i CCAUC am ei ymatebion trylwyr i'r Pwyllgor a nododd, er bod gweithio o bell
yn cynnig manteision, fod anfanteision i eraill hefyd. Mae’n pwysleisio y dylai
prifysgolion weithio gyda'u myfyrwyr i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion yr
holl fyfyrwyr. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch
i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/03/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/02/2022